Newyddion

CCB YNG NGHAERDYDD I LANSIO’R BLWYDDYN CFFI NEWYDD

Teithiodd aelodau CFfI ar draws Cymru i Gaerdydd i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
diweddar y mudiad.

Yn ystod y CCB ar ddydd Sadwrn 16eg o Fedi, etholwyd nifer o swyddogion gan aelodau, ar gyfer y flwyddyn i ddod. Daeth cyfnod Chris Lewis i ben fel Llywydd CFfI Cymru wedi dwy flynedd yn y rôl. Hoffai CFfI Cymru ddiolch i Chris am ei holl waith caled a’i ymroddiad tuag at y mudiad. Etholwyd Mrs Sarah Lewis o CFfI Maldwyn fel Llywydd newydd CFfI Cymru. Cafodd Rhys Richards, CFfI Ynys Môn ei ethol fel Cadeirydd a Dewi Davies, CFfI Ceredigion fel Is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Sarah Lewis, Llywydd newydd etholedig CFfI Cymru gyda Chris Lewis, cyn-lywydd CFfI Cymru

Cyhoeddwyd enillwyr gwobrau amrywiol yn ystod y cyfarfod. Fe wnaeth Tlws NFU Cymru ar gyfer y cynnydd fwyaf mewn aelodaeth yn ystod y deuddeg mis diwethaf, wrth gymharu gyda ffigurau o 2021-2022 ei gwobrwyo i CFfI Eryri, gyda 24.5% o gynnydd yn eu haelodaeth. Aeth Tlws Beynon Thomas i Geredigion, am fod y Ffederasiwn wnaeth ennill y nifer uchaf o farciau yn y rhaglen gweithgareddau i aelodau iau yn ystod y flwyddyn CFfI 2022/23. Yn olaf, cyflwynwyd Tlws Western Mail, gwobr i’r ffederasiwn wnaeth ennill y nifer uchaf o farciau yn holl raglen CFfI yn 2022/23, i CFfI Ceredigion.

Yn ogystal â gwobrau, cafodd dau siec eu cyflwyno yn y CCB yn dilyn Her Cadeirydd 2022-23. Cododd Hefin Evans gyfanswm o £4615.50 yn dilyn cyflawni Her Tri Chopa Cymru ar Awst 12fed, a gafodd eu rhannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a Diabetes Cymru.

Meddai Sarah Lewis, Llywydd newydd etholedig CFfI Cymru; “Rydw i wedi fy syfrdanu ar y ffaith bod aelodau wedi pleidleisio drosta i. Mae CFfI yn fy ngwaed a dwi wir yn credu gall aelodau gyflawni cymaint gyda’r mudiad hwn. Gwnaf fy ngorau dros CFfI Cymru, ac yn edrych ymlaen yn fawr i weithio gydag aelodau, swyddogion a staff.

Roedd Rhys Richards, Cadeirydd newydd etholedig CFfI Cymru, yn priodi ar y 16eg o Fedi felly wedi methu mynychu’r cyfarfod. Anfonodd Rhys fideo i’w chwarae yn y CCB a meddai; “Hoffwn i ddiolch i chi gyd am yr enwebiad a bydd yn bleser pur i dderbyn y rôl fel Cadeirydd CFfI Cymru. Dwi wir wedi mwynhau fy mhrofiad fel Is-gadeirydd dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddod i adnabod aelodau o siroedd amrywiol dros Gymru. Dwi’n edrych ymlaen at gyrraedd siroedd arall dros y flwyddyn nesaf, croeso i chi gysylltu ynglŷn ag unrhyw beth fedra i wneud i chi. Dwi’n fwy na hapus i helpu mewn unrhyw ffordd.

Hoffai CFfI Cymru longyfarch y pâr priod Mr & Mrs Richards ar eu priodas.

Meddai Dewi Davies, Is-gadeirydd newydd etholedig CFfI Cymru; “Mae’n anrhydedd i gael fy ethol fel Is-gadeirydd CFfI Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gydag aelodau, swyddogion a staff dros y 12 mis nesaf – diolch i chi gyd!”

Hoffai CFfI Cymru ddiolch i aelodau, gwesteion, swyddogion a staff am fynychu’r CCB yng Nghaerdydd ac i Brifysgol Harper Adams am noddi’r cyfarfodydd.