Newyddion

CCB CFfI CYMRU 2021

Wedi 19 mis o gyfarfodydd rhithwir, cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol blynyddol CFfI Cymru fel digwyddiad wyneb yn wyneb ar 18 Medi eleni, ar faes Sioe Frenhinol Cymru.

Yn absenoldeb y llywydd, fe wnaeth Katie Davies, Cadeirydd ymadawol CFfI Cymru, gadeirio’r cyfarfod.  Daw Katie o Sir Benfro, a chydnabuwyd ei gwaith caled a’i hymrwymiad i’r mudiad dros ei chyfnod o ddwy flynedd fel cadeirydd, a diolchodd pawb iddi hi. Wrth drosglwyddo’r awenau, fe wnaeth hi ddatgan ei diolch am y ddwy flynedd ddiwethaf, a dywedodd ei bod hi’n anrhydedd fawr cael dilyn yn ôl traed ei mam a dod yn Gadeirydd CFfI Cymru; dyma’r unig enghraifft o riant a phlentyn yn dod yn gadeiryddion Cymru.  

Etholwyd Caryl Haf o Geredigion yn Gadeirydd CFfI Cymru ac etholwyd Hefin Evans o Sir Gaerfyrddin yn is-gadeirydd. Cafodd Chris Lewis, Is-lywydd CFfI Cymru ers tro byd, ei ethol yn Llywydd Cymru. Cydnabuwyd a chanmolwyd ei ffyddlondeb a’i waith caled i’r mudiad, oherwydd mae ef yn wastad wedi credu yng ngrym cyfunol aelodau’r CFfI.

Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd newydd, gofynnodd Caryl i’r holl glybiau gefnogi ei gilydd fel ffederasiynau sirol a chydweithio wrth iddynt symud ymlaen trwy’r cyfnod anodd hwn. Dywedodd ei bod hi’n edrych ymlaen at deithio i bob sir a chwrdd â chymaint â phosib o aelodau, wyneb yn wyneb y tro hwn.

Hefyd, cyhoeddwyd enwau enillwyr gwobrau amrywiol yn ystod y cyfarfod.  Fe wnaeth CFfI Sir Benfro ennill tlws Beynon Thomas am y nifer uchaf o bwyntiau yng nghategorïau’r aelodau iau, ac enillodd CFfI Maldwyn dlws y Western Mail am sgorio’r nifer uchaf o bwyntiau yn holl gystadlaethau’r CFfI yn ystod y flwyddyn.

Cafwyd ymdeimlad o droi dalen newydd yn dilyn dwy flynedd ryfedd iawn i’r mudiad, pan gyhoeddwyd enwau aelodau staff newydd. Penodwyd Rhianwen Jones yn Swyddog Cystadlaethau a Rhyngwladol, Anna Jones yn Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, a Philip Evans yn Brif Weithredwr newydd. Dywedodd Philip ei bod hi’n “gyfnod cythryblus ond cyffrous hefyd” a dywedodd mai ei flaenoriaeth bennaf fydd “dychwelyd i ble’r oedd CFfI Cymru” cyn y pandemig.

Er bod dwy flynedd anghyffredin iawn wedi mynd heibio, mae’r brwdfrydedd i symud ymlaen yn ystod y cyfnod heriol hwn yn dystiolaeth o gryfder mudiad y CFfI, p’un ai yma yng Nghymru neu yn y wlad yn ei chyfanrwydd.