Newyddion

Cariad CFfI

Mae’n ffaith adnabyddus bod CFfI wedi cael ei ddefnyddio gan ei aelodau fel ‘asiantaeth cariad’ ar hyd y blynyddoedd. I rai, gall y syniad o ddod o hyd i’ch bartner oes wrth brofi’r wefr o ddysgu’r grefft o drefnu blodau neu farnu stoc fod yn frawychus. Ond, yn ein cymunedau gwledig, mae’r profiadau a rennir hyn wedi gosod sylfaen i lawer o gariad.

Er mwyn penderfynu pa mor sefydlog yw rhai o’r cysylltiadau hynny, aeth Catrin James, ein Swyddog Datblygu’r Gymraeg ati i ddarganfod grŵp o ‘lovebirds‘ ar draws Gymru a’u roi ar brawf gyda Siôn a Siân CFfI Cymru. Am y cyfle i ennill hamper o gaws Dragon diolch i haelioni Hufenfeydd De Caernarfon, gosodwyd cyfres o gwestiynau i 6 chwpl gan gynnwys Llywydd NFU Cymru Mr John Davies a’i wraig Menna.

O wybod lliw llygaid eich partneriaid i gytuno ar bwy yw’r gyrrwr gorau, os yw’r her hon yn profi unrhyw beth – mae doethineb yn dod gydag oedran, ond nid o reidrwydd y gallu i gofio agweddau allweddol am eich partner!

I weld sut y llwyddodd yr holl gyplau, ewch i dudalen Facebook neu Instagram CFfI Cymru lle mae pob un o’r 4 rhan o’r gystadleuaeth i’w gweld. Bydd yn sicr o ddod â gwên i’ch wyneb. Beth am roi eich partner ar brawf a gweld pa mor dda maen nhw’n eich adnabod chi? (Ymwadiad: Ni fydd CFfI Cymru yn atebol am unrhyw ddadleuon a achosir.)