Newyddion CFfI Cymru

Bydd CFfI Dyffryn Tanat yn cwblhau ’90 Gweithred o Garedigrwydd’ am eu 90fed flwyddyn!

Mis y Galon yw Chwefror ond mae un clwb yn Sir Drefaldwyn wedi bod yn lledaenu’r cariad ers mis Medi trwy gwblhau ’90 Gweithred o Garedigrwydd’ i ddathlu eu 90fed pen-blwydd! Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Hannah Morris o CFfI Dyffryn Tanat i glywed popeth am eu menter ysbrydoledig!

“Eleni mae Dyffryn Tanat yn troi’n 90 oed! Meddyliodd ein cadeirydd, Elin Lewis, am y syniad o wneud ’90 Gweithred o  Garedigrwydd’ drwy gydol y flwyddyn. Roedd Elin o’r farn y byddai hyn yn ffordd dda o roi yn ôl i’n cymuned sy’n rhan bwysig o ffermwyr ifanc. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sefydliadau a grwpiau yn ein hardal wledig i annog pob oedran i gymryd rhan a chymdeithasu.

Dechreuodd ein gweithredoedd caredigrwydd drwy helpu i wneud y parc lleol yn ddiogel i agor i’r cyhoedd unwaith eto. Rydym wedi helpu i weini lluniaeth mewn swper Cynhaeaf a Phlygain lleol. Mae mwy o weithredoedd caredigrwydd wedi cynnwys torri a chrynhoi o amgylch y lawnt bowlio lleol a glanhau’r  cofadail i baratoi ar gyfer Dydd y Cofio. Cawsom hynod o foddhad drwy ddosbarthu 250 o mins peis i bobl lleol.  Roedd hon yn ffordd hyfryd o estyn allan i’r henoed a lledaenu ysbryd yr ŵyl. Rydym wedi cael aelodau yn gosod coeden Nadolig y pentref a stiwardio yn y rhediad tractorau goleuedig yn y Trallwng.

Mae’r clwb wedi ei chael yn hynod o werth chweil cwblhau’r gweithredoedd caredigrwydd hyd yn hyn. Rydym yn teimlo ei fod wedi bod yn ffordd bwysig o atgoffa eraill o’r pŵer o roi help llaw yn unig. Mae pwysigrwydd y gweithredoedd hyn eisoes wedi dod yn glir gan ein bod wedi clywed yn ôl gan bobl yr ydym wedi eu helpu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd i ddweud wrthym y gwahaniaeth rydym wedi’i wneud.

Am ein 90fed flwyddyn rydym yn mynd i fod yn cael cinio tei du ym mis Mehefin lle gallwn edrych yn ôl a dathlu llwyddiant y clwb dros y blynyddoedd. Rydym hefyd yn bwriadu cael noson gymdeithasol i ail-wylio nifer o glipiau o flynyddoedd ffermwyr ifanc blaenorol.”

Am stori anhygoel – diolch i CFfI Dyffryn Tanat. Os oes gennych stori yr hoffech ei rhannu am eich clwb neu sir, cyflwynwch hi drwy glicio ar y botwm isod 👇🏼