ATV Challenge

Gan weithio mewn partneriaeth â Quad Bikes Wales, mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru wedi rhedeg yr Her ATV am y drydedd flwyddyn, gyda’r enillydd yn derbyn beic cwad Honda newydd am flwyddyn trwy garedigrwydd Quad Bikes Wales.

Mae CFfI Cymru hefyd yn falch o fod yn gweithio fel partner o fewn partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru. Nod y bartneriaeth yw codi ymwybyddiaeth o heriau Iechyd a Diogelwch, goblygiadau a sut i weithio’n ddiogel.

Gan weithio gyda’r barnwr Mr Sam Marvin, heriwyd yr aelodau i ymgymryd â her ATV, yn ogystal â chwblhau holiadur diogelwch.

Gyda’r wobr fawreddog o Feic Cwad Honda am flwyddyn i’w hennill, ynghyd â helmed ddiogelwch i’r enillydd a’r rhai a ddaeth yn ail, bu aelodau o bob rhan o Gymru yn cystadlu yn yr her, gyda Sam Bowen, aelod o Radnor Valley, Maesyfed, yn ennill y wobr fawreddog. Nodwyd Lloyd Hammond, CFfI Hawy a William Jenkins, CFfI Lledrod fel rhai teilwng yn ail.

Wrth siarad am y gystadleuaeth a’i lwyddiant, nododd Sam Bowen:

“Am gyfle gwych i rywun ennill cwad newydd sbon. Wnes i erioed feddwl am eiliad y byddwn i wedi ei hennill. Gwobr anhygoel a roddwyd yn garedig gan Quad Bikes Wales. Pwynt allweddol yr her hon oedd diogelwch ac fe dylid gwthio hyn mwy i ffermwyr/gweithwyr gan fod pawb yn anghofio’r pethau sylfaenol o bryd i bryd ac mae gwneud y cystadlaethau hyn yn adnewyddu eich cof. Roedd yn wych cystadlu ac roedd yn hynod o drefnus, a dylai mwy o bobl gystadlu. Beth sydd gennych i’w golli? (Maen nhw hyd yn oed rhoi tocyn am ddim i chi i’r ffair aeaf!) Diolch yn fawr iawn i bawb a drefnodd y gystadleuaeth hon a gobeithio y bydd gennych fwy o geisiadau y flwyddyn nesaf.”

Sam Bowen, CFfI Radnor Valley, Maesyfed

Mae CFfI Cymru yn estyn ei ddiolch i Quad Bikes Wales am eu cefnogaeth barhaus i’r gystadleuaeth hon.