Arall

Arwyr Di-Glod CFfI Keyston

Mae CFfI Keyston sydd wedi’i leoli yn Sir Benfro yn grŵp agos o bobl ifanc 11-28 oed. Yn 2023, roedden ni mor gyffrous i ennill y gystadleuaeth Talent ac aethom ymlaen i gynrychioli CFfI Sir Benfro ym Mangor.

Ar ôl diwrnod hir o deithio ond amser anhygoel gyda chriw Keyston, ynghyd â noson hwyr iawn, roedd hi’n ddiogel dweud ein bod ni’n barod am adref y diwrnod canlynol! Gyda’n miwsig ymlaen ac yn ceisio dal i fyny ar gwsg, roedd ein bws yn gyntaf i gyrraedd wedi  gwrthdrawiad traffig ffordd ac mae ein haelodau yn neidio allan i helpu. Enghraifft oedd defnyddio’r propiau’r gystadleuaeth Dalent fel y brwsys i greu lle diogel. Fe wnaeth ein Amy James ei hunan ein gwneud yn hynod o falch drwy gymryd cyfrifoldeb am yr olygfa. Fe roddodd  cymorth cyntaf hanfodol i bob anafedig. Cyrraeddodd y gwasanaethau brys 30 munud yn ddiweddarach ac fe gafodd pob un o’r anfedigion eu cludo’n  ddiogel i’r ysbyty. Yn dilyn y digwyddiad, mae CFfI Keyston wedi dysgu bod angen ymgorffori cymorth cyntaf yn ein hymennydd yn fwy. Rydym yn ei gwneud hi’n orfodol yn ein clwb bod gan bob arweinydd a swyddog sesiwn cymorth cyntaf blynyddol i greu amgylchedd mwy diogel. Rydym hefyd yn ei ychwanegu at galendr clwb CFfI sy’n gweithio gyda’n adran Ambiwlans St John’s lleol i gynnal sesiwn cymorth cyntaf gan ei gwneud yn hwyl ac yn addysgiadol i’n haelodau. Mae hyn yn caniatáu mwy o wybodaeth, cymorth cyntaf i fod yn ail natur a mwy o gyfleoedd fel y gystadleuaeth diogelwch fferm. Ein nod yw gweithio gyda’n CFfI Sirol i wneud hyn yn orfodol yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro ac o bosibl CFfI Cymru yn y dyfodol. Ar ben hyn, mae ein haelodau anhygoel wedi codi arian ar gyfer diffibriliwr yn ein canolfan gymunedol yn Camrose. Byddwn i gyd yn cwblhau hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r diffibriliwr ac yn anelu at greu fideo cyfryngau cymdeithasol i ddangos sut i’w defnyddio!!

Diolch am ddarllen ein stori ddydd Sul!

Llawer o gariad o CFfI Keyston 💛