Blog yr Aelodau

Antur Angharad i Batagonia

Cawsom sgwrs â Arweinydd Tîm Patagonia, Angharad Ann Evans o Geredigion, i glywed popeth am eu Antur i Batagonia!

21ain o Fedi – Cychwyn ar y Daith Fawreddog

Yn gynnar bore’r 21ain o Fedi dechreuodd 16 o aelodau CFfI Cymru ei thaith fawreddog i ochor draw’r byd i Batagonia. Sioned, Betsan a Jac o Sir Gâr, Caryl a Megan o Sir Benfro, Manon a Carwyn o Ynys Môn, Llywela ac Aled o Glwyd, Rhodri o Eryri, Teleri o Frycheiniog a Gwenllian, Eiry, Elen, Mared ac Angharad o Geredigion. Wedi teithio dros 7,500 o filltiroedd, cyrhaeddodd y criw Buenos Aires yn gynnar bore’r 22ain barod am ddiwrnod llawn o weld atyniadau yn y brif ddinas, gan gynnwys cerdded o gwmpas ardal liwgar La Boca, Plaza de Mayo a Recoleta Cemetery cyn mwynhau cinio ysgafn o empanadas a hufen iâ du i bwdin. Wedi’r cinio roedd hi’n amser i ddal ac awyren rhif 3 lawr i Porto Madryn er mwyn dechrau ein taith o’r Wladfa.

23ain o Fedi – Morfilod, Pengwiniaid a Peninsula Valdes

Gwaeth y criw mwynhau taith undydd llawn o Peninsula Valdes lle bu’r aelodau yn crwydro trwy gydol y dydd gan ymweld ag atyniadau cyn cael cyfle hynod ffodus o weld pengwiniaid magellanic ar lannau’r môr a morfilod southern right. Profiad byth cofiadwy i’r aelodau i fod mor agos at y creaduriaid mawreddog hyn a fydd yn gadael effaith barhaol arnom.

24ain o Fedi – Hanes a Chymreictod ym Mhatagonia

Dechreuwyd y dydd yn teithio o gwmpas Puerto Madryn lle byddwn yn ymweld â nifer o safleoedd lleol sy’n gysylltiedig â glaniad gwreiddiol y Mimosa ym 1865 ar draeth Puerto Madryn, gan gynnwys cerflun y Fenyw Gymreig ac amgueddfa Punta Cuevas lle cawsom daith a gwybodaeth ffantasig o’r safleoedd, cyn symud ymlaen i Drelew, lle cafodd y sgerbwd dinosor mwyaf y byd ei ddarganfod. Bu’r aelodau yn ymweld ag Ysgol Yr Hendre yn Nhrelew lle mae’r plant yn derbyn addysg Cymraeg a Sbaeneg. Cafodd yr aelodau ei ddiddanu gan y plant yn canu ei hoff ganeuon Cymraeg ac yn dawnsio gwerin cyn cael taith o’r ysgol a chyfle i siarad gydag aelodau o staff yr ysgol a phlant cyn symud ymlaen i amgueddfa “Pueblo de Luis” ac ymweliad a chapel Moriha lle bu’r aelodau yn canu ei’n hoff emynau o dan arweiniad cyfeilydd swyddogol y daith Aled Clwyd a bu’n hynod ffodus i chwarae’r organ wreiddiol a ddaeth draw ar long y Mimosa yn 1865.

Ymlaen i’r Gaiman, ac am ein llety am y cwpwl o nosweithiau nesaf yn Plas Y Coed a Tŷ Gwyn cyn mynd i’r clwb rygbi i fwynhau gwledd o fwyd ac adloniant wedi’i drefnu gan Goleg Camwy i ni. Cyflau arbennig i gwrdd a ffrindiau newydd, a chyfle i siarad Cymraeg (neu ymarfer ei’n Sbaeneg) cyn ymuno gyda disgyblion y coleg mewn Twmpath Ddawns (roedd rhai yn well na’i gilydd am ddawnsio), ond wrth gwrs roedd rhaid i ni aelodau mudiad ffermwyr ifanc gyflwyno ambell gem ei’n hun i’r myfyrwyr, ie chi’n iawn wheelbender (IYKYK).

25ain o Fedi – Addysg a Chymuned yn y Gaiman

Dechreuwyd y bore gyda ymweliad i Ysgol y Gaiman lle bu’r aelodau ar daith o gwmpas yr ysgol yn cymdeithasu gyda’r plant. Buom yn ffodus i gwrdd ag aelod o CFfI Dyffryn Nantlle o Eryri yno, sef Lois sydd yn dysgu yn yr ysgol am flwyddyn. Roedd e’n braf cyflwyno i ddisgyblion blwyddyn 5 Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru a siarad gyda nhw am yr hyn sydd yn digwydd o fewn y mudiad. Symudwyd ymlaen i archwilio mwy o amgueddfeydd, pentref Dolavon cyn ymweld â Chapel Bethel a Chlwb Rygbi’r Ddraig Goch. Gorffennwyd y diwrnod i ffwrdd gyda phryd o fwyd blasus yn Gwalia Lan a peint cymdeithasol yn Cactws. Top tip: Ewch am y Stêc Malbec, Wow anhygoel.

26ain o Fedi – Diwrnod ar y Fferm

Ein ddiwrnod olaf yn y Gaiman, fel ffermwyr ifanc roedd rhaid mynd i ymweld â fferm draddodiadol yr Ariannin. Cawsom groeso cynnes gyda Ricardo yn fferm ym Methesda ger gyrion y Gaiman. Cawsom fewnwelediad i rediad ei fferm 175ha sydd yn gorffen 900 pen o wartheg y flwyddyn ar system pori cylchdro porfa a blend o grawn, alfalfa, nitrogen a phrotein i dewhau’r gwartheg i bwysau hyd at 400kg, ac yn gwerthu ei chynnyrch yn lleol i’r cymunedau cyfagos. Yn ogystal gwelwyd system dyfrhau sydd yn cael ei defnyddio gan y fferm er mwyn gwella tyfiant y porfa.


Wedi bore hynod ddiddorol gyda Ricardo, aethom am ginio blasus yng nghwmni Billy a Gladys. Asado oedd ar y fwydlen a chawsom wledd gyda’r ddau a phrynhawn hwylus yn canu ei’n hoff ganeuon Cymraeg ac yfed mate sef te traddodiadol yn yr Ariannin. Cyn i ni fynd ar y bws dros nos i Trevelin roedd amser am de prynhawn traddodiadol yn Blas y Coed gydag Anna, blasus iawn.

27ain o Fedi – Antur yn Cwm Hyfryd

Allan a ni yn gynnar yn y bore i gwrdd â’n tywysydd Alegandro a aeth a ni ar ymweliad i weld 2 o’r 5 fferm roedd ei deulu yn berchen yn gysgod mynyddoedd yr Andes yn Cwm Hyfryd. Wedi bore ar y ffermydd yn dysgu am ei systemau ffermio, cawsom asado i ginio gyda theulu Alegandro yn ei gartref a sing song fach. Hwyrach yn y prynhawn cyfle i farchogaeth ceffylau yn gysgodion yr Andes, uchafbwynt i nifer fawr o’r aelodau.

28ain o Fedi – Gwin, Melinau a Rafftio

Dechreuodd y bore yn Winllan Nant y Fall yn dysgu am y busnes teuluol sydd yn cael ei rhedeg gan 3 cenedlaeth o’r teulu ar 4 hectar o dir yn gwm hyfryd. Bore hynod ddifyr yn dysgu am y broses o greu gwin ac wrth gwrs roedd rhaid blasu tamed bach o’r gwin cyn mynd ymlaen i’r lleoliad nesaf. Stop nesaf y dydd oedd i Amgueddfa Melin Nant Fach, sydd yn parhau i weithio hyd at heddiw. Gyda’r prynhawn mentrodd rhai rafftio lawr Afon Corcovado yn gysgodion y mynyddoedd Andes tra bod eraill yn mynd am dro trwy’r goedwig.

29ain o Fedi – Diwrnod Olaf yn Nhrevlein

Wrth i ni dreulio ei’n ddiwrnod olaf yn Trevlein, stop cyntaf y dydd oedd Ysgol Y Cwm, lle bu aelodau yn cyd-ganu gyda disgyblion, a dau aelod sef Mared ac Angharad yn dal lan gyda chyn athrawes i’r ddwy sydd bellach yn byw ym Mhatagonia. Wedi’r ymweliad treuliwyd gweddill y dydd yn crwydro siopau Esquel a phryd hyfryd o fwyd cyn neidio ar yr awyren nôl i Buenos Aires, am noson gymdeithasol yn y ddinas fawr.

30ain o Fedi – Bywyd yn Buenos Aires

Bellach, nôl yn brysurdeb y ddinas aethom i weld nifer o atyniadau’r ddinas gan gynnwys y farchnad bwyd San Telmo ac yn y prynhawn yn gerddi Jardin Japones, cyn noson mewn Sioe Tango traddodiadol yr Ariannin.

1af o Hydref – Marchnad Fawr a Ffarwel i’r Ariannin

Bant a ni yn gynnar bore ‘na I Mercado de Cañuelas, sef un o farchnadoedd da byw mwyaf y byd, gyda safle’r farchnad yn ymestyn dros 175 hectar ac yn gweld dros 45,000 o wartheg yn cael ei werthu yn wythnosol. Nol i’r ddinas yn y prynhawn i ymweld â gwaith celf stryd a phrynhawn o siopa, cyn i ni fwynhau ein pryd o fwyd olaf yn gwmni ein gilydd cyn y daith adre i Gymru fach yn y bore, wrth gwrs stêc oedd y dewis gan bawb, roedd rhaid cael un arall cyn gadael.

Yn wir roedd hi’n drip bythgofiadwy, llawn Cymreictod, hanes diwylliant a chymdeithasu a bydd yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer. Diolch yn fawr i Aled a Angeles o Deithiau Patagonia am drefnu’r trip ac i CFfI Cymru am y cyfle i ymgeisio am y trip yma. Da chi, cymrwch bob cyfle gewch i deithio gyda’r mudiad, fyddwch chi ddim yn difaru.

“Bydd y trip hwn yn aros yn y cof am byth gan ei fod yn llawn hanes Cymreig, bwyd blasus, anifeiliaid ecsotic a golygfeydd hyfryd – tra’n cael cyfle I wneud ffrindiau gydag aelodau o bob cwr o Gymru.” – Rhodri Jones, Eryri.

Diolch enfawr i Aled ac Angelas o Patagonia Tours am drefnu popeth, a i CFfI Cymru am roi’r cyfle i ni. Cymerwch bob cyfle sydd gennych i deithio gyda’r mudiad – ni fyddwch yn difaru! – Angharad Ann Evans, Ceredigion