Blog yr Aelodau

Agri-I 2023

Fe wnaethon ni ddal i fyny gydag Olivia Davies o CFfI Morgannwg i glywed popeth am ei phrofiad ar daith Agri-I 2023 i Ddyfnaint.

Braf oedd gweld cymaint o amrywiaeth o ffermydd ac roedd maint rhai o’r ffermydd yn rhyfeddol. Diddorol oedd gweld yr amrywiadau mewn arallgyfeirio o fferm i fferm, boed yn siop fferm neu’n llaethdy eu hunain! Roedd y gwerthwr peiriannau yn ymweliad hynod ddiddorol arall a chafodd pawb amser gwych.