Newyddion

CCB YN LLANELWEDD I LANSIO BLWYDDYN NEWYDD

Teithiodd aelodau CFfI o bob cornel o Gymru i Faes y Sioe Frenhinol i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar y Ffederasiwn.

Yn ystod y CCB ar prynhawn Sul, y 25ain o Fedi, etholodd yr aelodau nifer o swyddogion am y flwyddyn i ddod, gyda Chris Lewis yn parhau fel Llywydd CFfI Cymru am ei ail flwyddyn yn y swydd. Etholwyd Hefin Evans, CFfI Sir Gâr, yn Gadeirydd a Rhys Richards, Ynys Môn, yn Is-Gadeirydd am y flwyddyn i ddod.

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Amrywiol hefyd yn ystod y cyfarfod. Dyfarnwyd Tlws Aelodaeth NFU Cymru am y cynnydd mwyaf yn yr aelodaeth ac enillwyd yn ystod y deuddeg mis diwethaf, o’i gymharu â ffigurau blwyddyn 2019-2020 i CFfI Sir Gaerfyrddin, gyda chynnydd o 21% yn eu haelodaeth. Tlws Beynon Thomas i’r Ffederasiwn sy’n ennill y nifer uchaf o farciau yn y rhaglen weithgareddau i aelodau Iau yn ystod blwyddyn CFfI 2021/22 yw CFfI Ceredigion. Yn olaf, Tlws y Western Mail i’r Ffederasiwn a enillodd y nifer uchaf o farciau yn holl raglenni’r CFfI yn 2021/22 yw CFfI Brycheiniog.

Dywedodd Hefin Evans, Cadeirydd newydd ei ethol CFfI Cymru;

“Mae’n anrhydedd mawr cael fy ethol fel Gadeirydd Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod, gyda’n haelodau mor frwd i gystadlu a chymdeithasu drwy’r ffederasiwn. Byddaf yn cefnogi ein haelodau bob cam o’r ffordd yn y flwyddyn i ddod.”

Dywedodd Rhys Richards, Is-Gadeirydd newydd ei ethol i CFfI Cymru;

“Rhys Elis Richards ydw i ac rwy’n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Bodedern, Ynys Môn. Braint oedd cael fy ethol fel Is-Gadeirydd CFfI Cymru yn y cyfarfod blynyddol. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau am y cyfle, ac edrychaf ymlaen at ddechrau ar y gwaith. Rwyf wedi elwa’n fawr o fod yn aelod o’r mudiad arbennig hwn, ac wedi dal ychydig o swyddi o fewn y sefydliad ar lefel Clwb a Sir. Rwyf wedi bod yn aelod o’r Ffermwyr Ifanc ers deuddeg mlynedd bellach a chredaf yn gryf fod gennym fudiad sy’n cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i bobl ifanc Cymru. Gobeithio y caf gyfle i fynychu digwyddiadau a chefnogi’r clybiau a’r aelodau cymaint â phosib yn ystod y flwyddyn hon.”