News

Aelodau CFfI Cymru yn tynnu gyda’i gilydd i guro Record Byd Guinness! 

Ddydd Gwener 1 Mawrth 2024, aeth tua 100 o aelodau CFfI Cymru i lawr i draeth Cefn Sidan yn Sir Gaerfyrddin i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ychydig yn wahanol. Wrth wisgo crysau rygbi coch, nwyddau CFfI a hetiau cennin Pedr daeth y ffermwyr ifanc at ei gilydd i roi cynnig ar yr ornest tynnu’r gelyn hiraf ar y traeth hiraf yng Nghymru. Cafodd yr aelodau eu calonogi gan gapteiniaid tîm – sêr rygbi Cymru Scott Quinnell ac Elinor Snowsill. 

Tîm Elinor ddaeth i’r brig, ond roedd pawb a gymerodd ran ar y diwrnod yn enillwyr! Torrwyd y record, a gosodwyd teitl Record Byd Guinness newydd ar gyfer Yr Ornest Tynnu’r Gelyn Hiraf. Roedd y record i’w churo yn 365 metr ac ar Ddydd Gŵyl Dewi roedd y record wedi ei gosod ar 516.35 metr. 

Hoffai CFfI Cymru ddiolch i’r holl aelodau a gymerodd yr amser i deithio i lawr i Barc Gwledig Pen-bre i dynnu at ei gilydd i dorri’r record newydd. 

Roedd yr ymgais yn rhan o nifer o weithgareddau a dorrodd recordiau a recordiodd S4C i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Byddwch yn gallu gweld yr holl ymdrechion ar sioe “Guinness World Records Cymru 2024” a fydd yn cael ei darlledu ddydd Llun 1 Ebrill.