Newyddion

AELODAU CFFI CYMRU YN MEISTROLI’R MOCH

Cyhoeddwyd mai chwe aelod o CFfI Cymru oedd yr enillwyr ar gystadleuaeth Menter Moch yn gynharach eleni. Dros y misoedd diwethaf maen nhw wedi bod yn magu moch fel rhan o fenter gan Menter Moch Cymru a CFfI Cymru.

Mewn ymgais i annog y genhedlaeth nesaf o geidwaid moch ac i gael ffermwyr i feddwl am foch fel opsiwn arallgyfeirio ymarferol, dyfarnwyd pum mochyn bach yr un i chwe aelod o CFfI Cymru fel carreg gamu i mewn i’r diwydiant moch. Yr aelodau hyn oedd: Rebecca o CFfI Abergwaun, Sir Benfro, Carys o CFfI Llangadog, Sir Gar, Rhys a Jack o CFfI Gŵyr, Morgannwg, Frances o CFfI Pontsenni, Brycheiniog, a Leah & Alis o CFfI Nantglyn, Clwyd.

Roedd pob un enillydd yn wynebu heriau magu eu moch eu hunain wrth iddynt baratoi ar gyfer Ffair Aeaf Frenhinol Cymru. Dyma ychydig eiriau gan Carys wrth iddi gael ei dewis i dderbyn y moch bach;

“Gwelais y cyfle i fagu nifer fach o foch, o’r mochyn diddwyn i’r pesgi, fel cyfle dysgu mewn sector arall a fydd yn ehangu fy ymwybodaeth sylfaenol cyn mentro i’r sector ar raddfa fwy.”

Dywedodd aelod llwyddiannus arall, Frances o Frycheiniog wrth CFfI Cymru;

“O oedran ifanc, rwyf wedi bod yn ymwneud â’n fferm bîff a defaid deuluol sydd wedi’i gosod yng nghanol y Bannau Brycheiniog. Rwy’n falch iawn o gael fy newis ar gyfer Cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru ac mae wedi bod yn cyfle gwych i geisio cefnogaeth a mentora i adeiladu ar fy ngwybodaeth sylfaenol bresennol am fagu moch ac i ddatblygu fy sgiliau marchnata. Mae’r gystadleuaeth wedi rhoi’r hyder a’r cyfle i mi brofi addasrwydd menter foch ar ein fferm deuluol tra’n dangos manteision ffynhonnell incwm arall.”

Ar ôl ychydig o ddyddiau prysur yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, Beca a dewisodd Beirniaid Ela a Daniel i fod yn Bencampwr y gystadleuaeth Menter Moch. Dyma beth ddywedodd Rebecca wrth CFfI Cymru yn yr wythnosau cyn y gystadleuaeth;

“Gan fy mod yn awyddus i arallgyfeirio ar y fferm deuluol, ond yn ansicr pa fath o amrywiaethu i’w wneud, teimlais fod cystadleuaeth pesgi moch Menter Moch a’r CFfI yn swnio fel ffordd wych o sefydlu menter newydd ar y fferm tra’n cael digon o gefnogaeth a hyfforddiant. Penderfynais addasu sied a ddefnyddir fel arfer i fagu lloi i fagu’r moch ar system dan do. Rwyf wedi mwynhau bod yn rhan o’r gystadleuaeth yn fawr iawn ac mae wedi gwneud i mi ystyried dilyn y fenter moch ar y fferm yn barhaol. Mae’r holl hyfforddiant a sesiynau gyda phobl amrywiol o fewn y diwydiant wedi bod yn amhrisiadwy.”

Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Menter Moch Cymru am eu partneriaeth yn rhedeg y gystadleuaeth hon ac am roi’r cyfle unigryw hwn i’n haelodau.

I ddysgu mwy am sut y bu i’r aelodau gymryd rhan a pharatoi ar gyfer cystadleuaeth Menter Moch yn y Ffair Aeaf, ewch i’n gwefan.