News

Aelodau CFfI Cymru yn Dathlu Cerddoriaeth Cymraeg

Mae gan CFfI Cymru hanes o ddathlu Dydd Miwsig Cymru, gyda’i sengl boblogaidd ‘Bydd Wych’, cân Rhys Gwynfor, yn llwyddiant yn 2020, tra hefyd yn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl trwy godi arian i elusen meddwl.org. Clywir y sengl yn gyson ar y radio ac mae wedi dod yn anthem i CFfI Cymru. Gyda nifer o aelodau yn rhan o’r prosiect hwnnw, roedd y mudiad yn awyddus i gynnal dathliad arall eleni.

Eleni, creodd aelodau CFfI Cymru fideos lip sync i ganeuon poblogaidd Cymraeg i nodi deng mlynedd ers Dydd Miwsig Cymru.

Cystadleuaeth mynediad agored oedd hon i aelodau CFfI, cafwyd wyth cais i gyd; CFfI Abergwaun – Sir Benfro, CFfI Hermon – Sir Benfro, CFfI Llanddewi Brefi – Ceredigion, CFfI Llanelli – Sir Gâr, CFfI Llangollen – Clwyd, CFfI Llangwyryfon – Ceredigion, CFfI Pontsian – Ceredigion, CFfI Rowen – Eryri.

Cafodd y fideos eu beirniadu ar y nifer o ‘likes’ a gafodd pob post o fewn y 24 awr gyntaf o gael eu postio ar ein pedwar llwyfan cyfryngau cymdeithasol; Facebook, Instagram a’n tudalennau Twitter Cymraeg a Saesneg.

Derbyniodd y tri fideo uchaf, gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau, wobrau ariannol ar gyfer eu Clwb CFfI. Yn drydydd, yn derbyn £100 ar gyfer eu Clwb CFfI oedd CFfI Llanddewi Brefi, Ceredigion. Yn ail, yn ennill £200 oedd CFfI Rowen, Eryri. A phleidleisiwyd yn gyntaf gan ein dilynwyr oedd CFfI Llangwyryfon, Ceredigion, a fydd yn cael £250 i’w Clwb.

Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu holl gerddoriaeth Gymraeg ac mae’r detholiad o ganeuon a ddewiswyd gan ein haelodau yn y gystadleuaeth hon yn pwysleisio hyn. Gobeithiwn fod cynnal y gystadleuaeth wedi galluogi aelodau i ymchwilio ymhellach i’r ystod o gerddoriaeth Gymraeg a hefyd cyflwyno caneuon newydd i aelodau sy’n gwylio’r fideos a rennir.

Mae Cymru’n adnabyddus am fod yn ‘Wlad y Gân’ ac yn haeddiannol felly, mae CFfI Cymru hefyd yn ffodus i gael llawer o gerddorion dawnus yn aelodau. Mae rhestr chwarae wedi’i chreu i gasglu cerddoriaeth a ryddhawyd gan aelodau presennol neu flaenorol. Mae’r rhestr chwarae i’w gweld ar Spotify o dan ‘Cerddorion CFfI Cymru | Cerddorion CFfI Cymru’.

Hoffai CFfI Cymru ddiolch i Lywodraeth Cymru am ganiatáu i’r cyfle gwych hwn gael ei ddarparu i’n haelodau.