Newyddion CFfI Cymru
Addewid CFfI Cymru i hyfforddi cymaint o aelodau â phosibl mewn CPR
I gefnogi elusen ddewisol ein Cadeirydd Dewi Davies; British Heart Foundation (BHF), mae CFfI Cymru wedi gwneud addewid i hyfforddi cymaint o aelodau â phosibl mewn CPR sylfaenol erbyn mis Medi! Cychwynnodd y daith ar 19eg o Ionawr 2025 yng Nghanolfan CFfI Cymru trwy hyfforddi 33 o aelodau a swyddogion ♥️



Hoffem ddiolch i Jayne Lewis o BHF am ei hamser a’i brwdfrydedd! Dim ond 15 munud mae’r hyfforddiant ar-lein RevivR yn ei gymryd a gellir ei gwblhau gartref, mewn noson glwb neu ddigwyddiad sirol -#BeReadyForThatDay ♥️💜
Os hoffech gwblhau’r hyfforddiant, cliciwch ar y botwm isod.
Ar ôl ei gwblhau, llenwch ein holiadur byr fel y gallwn weld pa sir sydd ar y blaen!
