Newyddion CFfI Cymru

Mae Theatr Hafren yn goleuo’n borffor i groesawu CFfI Cymru i Sir Drefaldwyn!

Mae Eisteddfod CFfI Cymru yn dychwelyd i Theatr Hafren, Y Drenewydd penwythnos yma, ar ddydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025. Mae’r digwyddiad blynyddol yn ddathliad o greadigrwydd a dawn ffermwyr ifanc ledled Cymru, gyda chystadlaethau canu, adrodd, dawnsio, adloniant ysgafn a gwaith cartref – yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r flwyddyn yma yn un arbennig o bwysig gan mai Clybiau Ffermwyr Ifanc Maldwyn yw’r sir sy’n cynnal yr Eisteddfod, gan groesawu Eisteddfod Genedlaethol CFfI i’r sir am y tro cyntaf ers 1999. Mae hyn yn tynnu sylw at falchder lleol a’r ymroddiad mawr sydd gan Glybiau Ffermwyr Ifanc y sir. Disgrifir Eisteddfod CFfI fel yr unig Eisteddfod ddwyieithog o’i math yng Nghymru. Mae’r holl gystadleuwyr eisoes wedi ennill yn eu rowndiau siroedd ym mis Hydref, a nawr byddant yn cystadlu yn y Drenewydd i weld pwy yw’r gorau yng Nghymru.

Bydd drysau’n agor am 9:00yb, gyda’r diwrnod yn para tan 11:30yh. Tra bod tocynnau’r neuadd wedi’u gwerthu allan ar-lein, mae modd mwynhau’r cystadlaethau o’r ‘Parth Cefnogwyr’ pwrpasol yn y Theatr, lle bydd y cystadlaethau’n cael eu darlledu’n fyw ar sgrîn fawr yn syth o’r llwyfan, gan roi cyfle i gefnogwyr fod yn rhan o’r awyrgylch tra’n chymdeithasu â phobl o bob cwr o Gymru. Neu fel arall, gallwch fwynhau’r cystadlaethau gartref ar S4C rhwng 3yp–5yp ac eto rhwng 8yh a diwedd yr Eisteddfod.

Y tu hwnt i’r elfen gystadleuol, mae’r Eisteddfod yn dathlu creadigrwydd, gwaith tîm ac ysbryd cymunedol, gan adlewyrchu bywyd cymdeithasol a diwylliannol cefn gwlad Cymru. I’r 863 o gystadleuwyr, mae paratoi, ymarfer ac ymwybyddiaeth o’r rheolau yn hanfodol, tra bo’r gwylwyr yn mwynhau diwrnod llawn adloniant. Mae gwirfoddolwyr a chefnogwyr lleol yn chwarae rhan allweddol yn rhediad y diwrnod, ac mae CFfI Cymru yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniad gwerthfawr.

Ymhlith uchafbwyntiau’r dydd bydd Seremoni y Cadeirio a’r Coroni. Crëwyd  y Gadair Farddol eleni gan Paul Phillips, cyn-aelod o CFfI Aberriw, tra dyluniwyd y goron gan David Dart a Robi Wood, gyn-aelodau o CFfI Cegidfa ac arbenigwyr dylunio talentog.

Hoffai CFfI Cymru ddiolch i bwyllgor Eisteddfod Maldwyn, gan gynnwys Lynfa Jones, Cadeirydd eleni, ac Aled Wyn Davies, Llywydd yr Eisteddfod am eu gwaith caled diflino. Hoffem hefyd ddiolch i noddwyr yr Eisteddfod: James Pantyfedwen, Castell Howell, Hafren Veterinary Group, BSW Group – Tilhill, Hafren Furnishers, Field Mouse, cangen Maldwyn UAC, Coed y Bryn Nurseries, a Barcud.

Nid cystadleuaeth yn unig yw Eisteddfod CFfI Cymru – mae’n ddathliad o draddodiad, diwylliant ieuenctid ac undod cymunedol. Gyda pherfformiadau o bob cwr o Gymru ac awyrgylch fywiog a chroesawgar, bydd y Drenewydd yn ganolbwynt diwylliannol Cymru’r penwythnos hwn.