Newyddion CFfI Cymru
Profiad Leah ers ennill y Gystadleuaeth Arloesedd Busnes Gwledig
Llynedd, lansiwyd cystadleuaeth newydd sbon mewn partneriaeth â Rural Advisor. Cafodd aelodau CFfI Cymru gyfle i ennill gwerth £1000 o gymorth busnes i’w helpu i droi eu syniad busnes yn realiti. Yn Sioe Frenhinol Cymru 2024, daeth Leah Meirion Davies o Glwyd yn fuddigol yn y gystadleuaeth ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r tîm yn Rural Advisors er mwyn lansio ei busnes newydd. Dewch i glywed hanes Leah a dysgu pa ddatblygiadau sydd wedi bod dros y 9 mis diwethaf…

Mae cymryd rhan yn y Gystadleuaeth Arloesedd Busnesau Gwledig wedi bod yn gyfle gwych—nid yn unig i ddatblygu syniad busnes, ond i archwilio ei botensial gyda’r math cywir o gymorth.
Mae gweithio gyda’r tîm Rural Advisor wedi bod yn un o rannau mwyaf gwerthfawr hyd yn hyn. Roedd cael rhywun i rhannu a trafod syniadau yn gwneud i’r broses gyfan deimlo’n llai llethol a rhoi llawer mwy o ffocws i’r syniad. Helpodd y sesiynau trafod i droi fy syniadau annelwig yn rhywbeth llawer mwy diriaethol.
Tu hwnt i ddatblygu syniadau, roedd y cymorth hefyd wedi helpu i feithrin hyder. Mae’n hawdd cwestiynnu eich hun pan fyddwch yn gweithio ar rywbeth newydd, ond roedd cael tîm Rural Advisor yn gefn i mi yn golygu bod rhywun yn fy nghornel—yn cynnig anogaeth, yn gofyn y cwestiynau cywir, ac yn fy helpu i feddwl am bethau’n gliriach.
Un o’r manteision mwyaf fu’r ymdeimlad o atebolrwydd. Pan fyddwch chi’n gweithio ar eich pen eich hun, mae’n hawdd gadael i syniadau lifo, ond fe wnaeth trafod rheolaidd helpu i gadw’r momentwm. Roedd gwybod bod rhywun yno i helpu i olrhain cynnydd a datrys rhwystrau yn gwneud gwahaniaeth mawr i gadw’r prosiect ar y trywydd iawn. Hyd yn oed os yw’r prosiect wedi bod yn un llawer mwy nag yr oeddwn erioed wedi rhagweld.
Mae cymorth y Rural Advisors wedi bod yn rhan enfawr o symud y syniad yn ei flaen—a byddwn yn argymell y profiad i unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan yn y gystadleuaeth neu ddatblygu syniad busnes.
