Newyddion CFfI Cymru
Aelodau o CFfI Ceredigion yn dangos cefnogaeth i Her Sioned
Ar ddydd Sadwrn y 5ed o Ebrill daeth 160 o aelodau a ffrindiau C.Ff.I Ceredigion ynghyd i gyflawni Her y Cadeirydd sef cerdded o Lanbed i Aberaeron ar hyd y llwybr gerdded o 21 milltir.
Fe wnaethon ni ddal i fyny â Chadeirydd Ceredigion, Sioned Davies, i glywed popeth am y diwrnod…
“Roedd hi’n ddiwrnod fendigedig gyda’r haul yn gwenu trwy’r dydd. Dechreuwyd y daith yng Nghlwb Rygbi Llanbed gan droedio ein ffordd i Silian, Abermeurig, Trefilan, Talsarn, heibio Brynnog i Groesffordd Cambrian Nurseries lan i Giliau Aeron ac yna draw am Lanerchaeron ac ar hyd y llwybr i Aberaeron gan orffen yng Nghlwb Rygbi Aberaeron.
Pwrpas y daith oedd codi arian ac elusen dewisol Sioned, Cadeirydd y Sir oedd Cronfa Er Cof am Geraint Hatcher. Roedd Geraint yn gyn-aelod o glwb Pontsian, cyn-arweinydd a cyn-llywydd clwb Llanwenog, cyn-llywydd Sir Ceredigion ac yn mwy na dim yn ffrind i bawb! Bydd yr arian sy’n cael eu gasglu yn cael ei rannu rhwng y gronfa, y Sir a chlybiau’r Sir.
Hoffwn ddiolch i Dalton ATV’s yn Talsarn am adael i ni ddefnyddio’r safle ar gyfer ein toriad cinio, Brecon Carreg am nawdd o foteli dŵr, Castell Howell am nawdd o losin, Kangaloos am y defnydd o’r portaloo ar hyd y daith ac i’r criw cefnogi a oedd yno i’n cynorthwyo wrth groesi’r ffordd a gyda’r snacks i gyd! Yn Aberaeron cafwyd bwyd bendigedig gan Cegin D.A ar ddiwedd y daith. Mae’r arian wedi llifo mewn a dymunwn ddiolch i bawb am ei haelioni tuag at y daith. Mae linc Just Giving dal ar agor tan diwedd mis Ebrill felly os hoffech chi noddi y criw byddai’n cael ei gwerthfawrogi yn fawr.”
Her Cadeirydd Ceredigion 2025- over and out!








