Newyddion CFfI Cymru

CFfI Maldwyn i gynnal Eisteddfod CFfI Cymru 2025 am y tro cyntaf ers 1999

Mae Eisteddfod CFfI Cymru yn cael ei chynnal gan ffederasiwn sirol gwahanol bob blwyddyn. Mae Eisteddfod CFfI Cymru wedi cael ei chynnal mewn mannau amrywiol megis Neuadd Brangwyn – Abertawe, Neuadd William Aston – Wrecsam a Venue Cymru – Llandudno i enwi dim ond rhai.

Mae’r Eisteddfod yn un o brif ddigwyddiadau calendr y CFfI gyda thua 700 o aelodau o bob rhan o’r wlad yn cystadlu mewn pedair adran allweddol gan gynnwys Gwaith Cartref, Adloniant Ysgafn, Cerddoriaeth a Llefaru. Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yw’r unig Eisteddfod ddwyieithog o’i fath yng Nghymru, gan roi cyfle i aelodau berfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Eleni mae CFfI Cymru yn hynod gyffrous i gyhoeddi y bydd Eisteddfod CFfI Cymru 2025 yn cael ei chynnal gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Maldwyn am y tro cyntaf ers 2010 ac yn y sir am y tro cyntaf ers 1999.

Rhaglen Eisteddfod CFfI Cymru 1999 yn Theatr Hafren

Buom yn siarad â Lynfa Jones, Cadeirydd yr Eisteddfod i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau a’r paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod, a gynhelir ddydd Sadwrn, 15fed Tachwedd, yn Theatr Hafren yn y Drenewydd. “Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yma i Drefaldwyn ym mis Tachwedd, fel pwyllgor rydym yn cydlynu’r rheolau a’r darnau gosod. Edrychwn ymlaen at lenwi’r llwyfan gydag amrywiaeth o dalentau o bob rhan o Gymru.”

Yn y gorffennol, roedd Eisteddfod Cymru dan ofal CFfI Maldwyn yn cael ei chynnal yn Aberystwyth, ond eleni mae’r ffederasiwn wrth ei bodd gallu dod â’r digwyddiad i’r sir. “Rydym yn falch iawn o groesawu Eisteddfod CFfI Cymru i Maldwyn eleni! Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i arddangos talent ac angerdd anhygoel ein haelodau o bob rhan o Gymru. Mae’n anrhydedd i’w chynnal, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i gyd i Maldwyn ym mis Tachwedd!” meddai Ffion Jones, Swyddog Datblygu Sirol CFfI Maldwyn.

Mae’r digwyddiad hefyd yn cael ei ddarlledu ar S4C, gan ddenu 68,000 o wylwyr drwy gydol y dydd a 10,500 o wylwyr sesiwn ar iPlayer a Chlic. Gallwch ddal i fyny ar raglen drwy S4C Clic neu BBC iPlayer.

Hoffech chi noddi’r Eisteddfod? Mae gan CFfI Cymru sawl pecyn nawdd a chyfleoedd hysbysebu ar gael ar gyfer y diwrnod. Cymerwch olwg ar yr holl fanylion isod, i drafod y cyfleoedd noddi hyn cysylltwch â Claire Powell drwy e-bost accounts@yfc-wales.org.uk neu drwy ffonio 01982 554 064.