Pwy Ydym Ni?
Rydym yn fudiad ieuenctid gwledig dwyieithog dynamig a hygyrch sy’n helpu ac yn cynorthwyo pobl ifanc i fod yn ffermwyr llwyddiannus, unigolion hyderus, cyfranwyr effeithiol a dinasyddion cyfrifol.
Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn fudiad gwirfoddol i ieuenctid Cymru sy’n gweithredu yn ddwyieithog ledled y wlad.
Mae gan CFfI Cymru dros 5,000 o aelodau rhwng 10 a 26 mlwydd oed ar draws Gymru, trwy rwydwaith o 12 ffederasiwn sirol a 157 o glybiau.
96
O GYSTADLAETHAU YN CAEL EU CYNNAL YN FLYNYDDOL I’N HAELODAU
3422
O AELODAU WEDI CYSTADLU GYDA CFFI CYMRU YN 2021-22
167
O AELODAU WEDI CYSTADLU AR LEFEL CENEDLAETHOL
73
TO AELODAU WEDI TEITHIO TRWY RAGLEN RYNGWLADOL CFfI CYMRU YN 2021-22
A oeddech yn gwybod?
Sefydlwyd y Clwb cyntaf ym mhentref Clunderwen yn Sir Benfro yn 1929, gyda ffederasiwn Cymru yn cael ei sefydlu yn 1936.
![](https://cffi.cymru/app/uploads//2022/10/IMG_9770-scaled-1-1024x742.jpg)
Clybiau CFfI
Mae holl Glybiau CFfI yn gysylltiedig i un o ddeuddeg Ffederasiwn Sirol yn annibynnol ac yn cael eu rhedeg gan rwydwaith o wirfoddolwyr, gyda chefnogaeth tîm o staff ar lefel y Sir, sydd yn amrywio a dibynnu ar nifer o aelodau a sut mae’r sir yn cael ei ariannu. Mae pob Clwb yn gweithredu gyda thîm swyddogion; gan gynnwys Cadeirydd, Is-gadeirydd, Trysorydd ac Ysgrifennydd, pob un ohonynt o fewn oedran aelodaeth ac yn cael eu hethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Clybiau. Mae gofyn i bob clwb i redeg yn ddemocratiaid yn dilyn rheolau cyfansoddiad safonol ac yn darparu rhaglen o weithgareddau y mae’r bobl ifanc yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno.
Ffederasiynol Sirol CFfI
Mae Ffederasiynau Sirol yn darparu rhaglen o weithgareddau ar gyfer Clybiau CFfI I fod yn rhan ac mae’r rhain yn cael eu rheoli drwy gyfres o Is-bwyllgorau. Mae angen i aelodau hefyd i gynrychioli barn eu Clybiau ar y pwyllgorau sirol, a phwyllgor gweithredol y Sir. Yn debyg i Ffederasiynau Sir, mae CFfI Cymru yn darparu rhaglen o wasanaethau a chefnogaeth gyffredinol i holl glybiau a siroedd yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn cael ei reoli trwy rwydwaith o is-bwyllgorau a’r corff llywodraethol; Cyngor CFfI Cymru.
Is-bwyllgorau CFfI Cymru:
Materion Gwledig
Cystadlaethau
Cyllid a Rheoli
Fforwm Ieuenctid
Digwyddiadau a Marchnata
Rhyngwladol
Gweithwyr a Chyflog
Grŵp Adeiladu
Swyddogion
![](https://cffi.cymru/app/uploads/2019/12/11-500x500.jpg)
Rhys Richards
Cadeirydd Cyngor
Ynys Môn
![](https://cffi.cymru/app/uploads/2019/12/Sarah-Lewis-500x500.jpg)
Sarah Lewis
Llywydd
Maldwyn
![](https://cffi.cymru/app/uploads/2022/09/Dewi-Davies-500x500.jpg)
Dewi Davies
Is-Gadeirydd Cyngor
Ceredigion
Staff
![](https://cffi.cymru/app/uploads/2023/01/Mared-Rand-Jones-500x600.jpg)
Mared Rand Jones
Prif Weithredwr
![](https://cffi.cymru/app/uploads/2023/01/Claire-Powell-500x600.jpg)
Claire Powell
Rheolwr Gweithrediadau
![](https://cffi.cymru/app/uploads/2023/01/Elliw-Dafydd-500x600.jpg)
Elliw Dafydd
Swyddog Datblygu’r Gymraeg
![](https://cffi.cymru/app/uploads/2023/01/Megan-Jones-500x600.jpg)
Megan Jones
Cynorthwy-ydd Gweinyddol
![](https://cffi.cymru/app/uploads/2023/01/Rhiannon-Williams-500x600.jpg)
Rhiannon Williams
Cynorthwy-ydd Gweinyddol
![](https://cffi.cymru/app/uploads/2019/11/ann-hammonds-500x600.jpg)
Ann Hammonds
Glanhawraig
Dod o hyd i glwb
Ydych chi rhwng 10 a 26 oed? Ydych chi am fod yn rhan o’r sefydliad cyffrous ac unigryw hwn? Os ydych, mae gennych 155 o glybiau i ddewis o’u plith!
Cliciwch ar eich Sir er mwyn dod o hyd i’ch clwb lleol.
Ein Noddwyr
Mae CFfI Cymru yn ffodus iawn o fod wedi creu partneriaethau cadarn gyda’r sefydliadau isod, gan ddatblygu perthynas buddiol i’n haelodau.
Gyda’n cefnogaeth mae’r noddwyr yma’n rhoi, gallwn sicrhau bod ein 5,000 o aelodau yn gallu datblygu sgiliau newydd, teithio’r byd a chymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau trwy gydol y flwyddyn. Bydd y gefnogaeth werthfawr hon yn rhoi sylfaen gadarn i’n haelodau, felly fydd pawb yn gallu gyrraedd eu llawn botensial.