Newyddion CFfI Cymru

Aelod CFfI yn heicio i gopa Mynydd Kilimanjaro

Yn dilyn 2024 hir a heriol, penderfynodd Elliw Dafydd, aelod o CFfI Llanddeiniol, Ceredigion wneud rhywbeth positif.

Treuliodd saith diwrnod yn cerdded i gopa Kilimanjaro, mynydd uchaf unigol (neu ‘freestanding’) y byd yn Nhanzania, Affrica i godi arian at dair elusen – tipyn o her! Y tair elusen ddewisol oedd Cronfa Ymchwil Niwrolegol Ysbyty Southmead, Refugee Women’s Centre a Gardd Horatio.

Dechreuodd yr her ar y 4ydd o Chwefror yn dilyn taith hir i gyrraedd Tanzania. Y bore hwnnw teithiodd Elliw o Moshi i Barc Cenedlaethol Kilimanjaro i gofrestru cyn dechrau’r cerdded wrth gât Lemosho. Roedd y diwrnod cyntaf yn un hwylus, cerdded tua 7km mewn tua 4 awr. Roedd y llwybr yn un rhwydd gyda chwmni mwncïod yn y coed ac amrywiaeth eang o flodau, planhigion a choed newydd i ddysgu amdanynt. Cyrhaeddodd Elliw gamp Mti Mkubwa ddiwedd y prynhawn cyn iddi nosi ac ar ôl swper bendigedig, gwely cynnar gan wrando ar y mwncïod yn clebran wrth noswylio.

Deffrodd y grŵp am 6.30 y bore tranoedd i frecwast o papaya, uwd, chapati, tost ac yams cyn dechrau ar ddiwrnod arall o gerdded. Roedd diwrnod dau yn cynnwys gweld chameleon am y tro cyntaf, tipyn o ddarnau serth o gerdded yn yr heulwen gref cyn cyrraedd Shira Camp 1. Dewisodd y grŵp barhau i gerdded er mwyn cyrraedd Shira Camp 2 a thrwy wneud, gwelon nhw newid yn y tirwedd i anialwch cerigog gydag ychydig o gloddiau isel. Ar ôl naw awr o gerdded a 17km cyrhaeddodd y grŵp yr ail gamp uwchben y cymylau ble gwelwyd copa’r mynydd yn glir am y tro cyntaf. Gwyliodd y grŵp yr haul yn machlud cyn bwyta swper a gweld yr eira ar y copa yn disgleirio yng ngolau’r lleuad. Defnyddiodd Elliw’r cyfle i ddarllen dros sgript panto CFfI Llanddeiniol gan fod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal diwedd y mis. Roedd y nos yn un oer gyda’r tymheredd yn cwympo o dan 0 gradd Celsius.

Cynhesodd heulwen fore rhif 3 y grŵp rhywfaint, wrth iddyn nhw ddechrau cerdded i fyny’r llethr nesaf. Roedd diwrnod 3 yn cynnwys 6 awr o gerdded a 10km o bellter. Dyma’r diwrnod dechreuodd y salwch uchder fwrw, gydag aelodau o’r grŵp yn dioddef o bennau tost a phwysau yn y pen, blinder, a chlywont synau traw uchel, symptomau sydd i’w disgwyl ar uchder o’r fath (4,000m+). Roedd y llwybr yn greigiog unwaith eto gyda thipyn o oledd. Wrth gerdded gwelwyd ogofau gyda dyddodion halen ble roedd byfflos yn hoffi llio’r halen ond tawel oedd hi’r diwrnod hwnnw a ni welwyd yr un. Fe gyrhaeddodd y grŵp y tŵr lafa erbyn amser cinio a gwnaeth y bwyta a’r gorffwys byd o les i’r criw blinedig. Bu’r bore yn niwlog, gwyntog ac yn oer ond yn ystod yr awr ginio daeth yr haul allan a wnaeth y prynhawn yn llawer mwy hwylus. Roedd gweddill y prynhawn yn cynnwys cerdded serth i lawr ac i fyny eto wrth i’r grŵp ail ymuno â’r hinsawdd gweundir a oedd yn cynnwys amrywiaeth prydferth o goed a phlanhigion. Roedd y tywydd yn newid yn aml rhwng niwlog a braf gyda’r siwrne mewn i gamp Baranco yn cael ei oleuo gan heulwen hyfryd. Gyda golygfa fendigedig o’r mynydd a chraig enfawr a fyddai’n cynnig her i’r diwrnod canlynol cafodd Julie ac Elliw swper yn adran gysgu’r babell mewn ymgais i gadw’n gynnes ar ddiwedd diwrnod 3.

Dechreuodd bore rhif 4 yn hwyrach na’r gweddill am 7yb. Roedd rhan gyntaf y dydd yn un heriol wrth i’r grŵp fynd ati i ymgeisio wal Barranco, darn creigiog serth a oedd yn cynnwys defnyddio tipyn o’r dwylo i’w dringo. Roedd Elliw wrth ei bodd tra bod ei ffrind Julie yn casáu’r llethrau serth, peryglus. Erbyn hyn roedd y grŵp wedi pasio hanner ffordd a threulion nhw’r dydd yn cerdded a dringo yn uwch mewn i’r niwl i gyrraedd camp Karanga sy’n hinsawdd anialwch alpaidd o gwmpas 4,000m o uchder. Cafwyd noswaith dawel arall o fwyta swper yn y sach gysgu er mwyn paratoi ar gyfer diwrnod 5.

Am 6yb ar ddiwrnod 5 deffrodd y grŵp i liwiau bendigedig yn yr awyr wrth i’r haul wawrio. Diwrnod byr oedd diwrnod 5 er mwyn ceisio rhoi cyfle i’r cyrff addasu i’r uchder cyn ymgeisio’r copa. Roedd y grŵp dal i brofi symptomau uchder a oedd yn cynnwys pinnau bach a phennau tost. Roedd y cerdded yn cynnwys darnau cerigog, llychlyd am 4 kilometr a gymrodd 4awr. Oherwydd yr uchder mae rhaid i gerddwyr deithio tipyn yn arafach oherwydd y prinder ocsigen, yn ogystal ag oherwydd y tirwedd heriol. Ar ôl gweld hofrennydd brys yn casglu cerddwyr a oedd yn dioddef o salwch uchder difrïol cyrhaeddodd y grŵp gamp Barafu ar uchder o tua 4,700m amser cinio. Cafodd y grŵp orchmynion i orffwys yn y prynhawn gan taw’r noswaith hynny y byddent yn ymgeisio cyrraedd y copa.

Am 11yh deffrwyd y grŵp i baratoi i ddechrau’r siwrne i’r copa. Ar ôl ychydig o de sinsir, popcorn a bisgedi dechreuodd y grŵp y daith. Roedd hi’n dywyll ac yn oer ac wrth i’r grŵp ddringo’n uwch, cododd y gwynt a chynyddodd yr oerfel. Roedd y llwybr yn serth ac yn teimlo’n ddiddiwedd. Wrth i’r grŵp edrych o’u blaenau roedd hi’n amhosib gweld pryd roedd y ‘head torches’ yn gorffen a’r sêr yn dechrau. Am tua 3yb cafodd y grŵp gyfle byr i orffwys, roedd y daith yn un heriol gyda’r gwynt yn cryfhau. Roedd y dŵr yn dechrau rhewi wrth i’r grŵp gyrraedd darnau ble roedd eira. Er bod pawb yn gwisgo hyd at 6 haenen o ddillad, roeddent dal i deimlo’n ddychrynllyd o oer wrth agosáu at y copa a oedd yn -5C y diwrnod hynny ond yn teimlo fel -11C oherwydd y gwynt. Roedd y daith yn heriol ac yn undonog ac yn teimlo’n ddiddiwedd. Roedd y tair awr ganlynol yn dilyn yr un patrwm ond erbyn 5.30yb roedd arwyddion bod y wawr ar y ffordd. Toc ar ôl 6yb cyrhaeddodd y grŵp pwynt Stellar, diwedd y llwybr serth ar ochr y mynydd a dechreuodd yr haul i wawrio.

Roedd yr olygfa yn un anhygoel, gydag arlliwiau oren a phinc yr awyr yn disgleirio ar eira’r copa. Roedd hyn yn bwynt emosiynol wrth i’r grŵp sylweddoli pa mor agos oedd y copa. Cariodd y grŵp ymlaen i gerdded am 45munud i gyrraedd y pwynt uchaf sef 5,895m, (mae’r Wyddfa ychydig dros 1,000m mewn uchder fel cymhariaeth!) Roedd cyrraedd y copa yn brofiad bythgofiadwy ond yn un dychrynllyd o fyr gan fod hi mor oer yno! Mae tymheredd y copa yn aros rhwng -4C a -27C trwy’r flwyddyn! Felly roedd y grŵp yn ffodus i fod yna yn ystod un o’r cyfnodau mwy cynnes. Dechreuodd y grŵp deithio nôl i waelod y mynydd a phasio trwy’r 5 hinsawdd wahanol sydd yn bodoli ar fynydd Kilimanjaro sy’n amrywio o dir aredig i rew Arctig.

Cymrodd yr esgyniad 2 ddiwrnod ond roedd hwyliau’n uchel gan fod y grŵp wedi llwyddo i gyrraedd y copa. Roedd cyrraedd y gât olaf yn teimlo fel tipyn o lwyddiant ond hefyd yn drist iawn wrth i’r antur fawr ddod i ben. Pa antur bydd aelodau’r  grŵp yn gwneud nesaf tybed?

Mae’r her i godi arian i’r tair elusen bron a bwrw’r  £6,000 sy’n anhygoel, diolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi trwy roi neu trwy rannu negeseuon o gefnogaeth.

I wylio’r daith a dysgu mwy am yr elusennau dewisol, dilynwch Kildro Elliw ar Facebook neu Instagram. Os hoffech chi gyfrannu, dilynwch y linc isod:

https://www.justgiving.com/crowdfunding/elliw-dafydd?utm_term=9jNPJXabg