Newyddion CFfI Cymru

Teithio’r byd gyda CFfI Cymru

Ar y 6ed o Hydref, cynhaliodd CFfI Cymru ei Diwrnod Dethol Rhyngwladol blynyddol. Eleni, ymgeisiodd 75 aelod, gyda 56 yn cael ei dewis i deithio ar 9 taith wahanol. Am y tro cyntaf mewn sawl mlynedd (os ddim erioed) cafwyd cynrychiolaeth o’r 12 sir. Hoffai CFfI Cymru ddiolch ein beirniaid a swyddogion am ei holl help yn beirniadu a stiwardio ar y dydd.

Bydd aelodau yn teithio i sawl gwlad blwyddyn nesaf, yn cynnwys Budapest, Latfia a Slofenia ar gyfer Seminarau Astudio a Rali Ewropeaidd gydag Ieuenctid Gwledig Ewrop (Rural Youth Europe), byddant hefyd yn teithio i Barcelona, yr Iseldiroedd, Belfast a Thaith Ddirgel i Ddinas Ewropeaidd.

Bydd 16 aelod yn teithio i De America ar drip bythgofiadwy i Batagonia. Angharad Evans o Geredigion bydd yn arwain y tîm gyda Carwyn Jones o Ynys Môn yn ymgymryd â rôl Ddirprwy Arweinydd y tîm. Mae gweddill y tîm yn cynnwys Llywela Edwards ac Aled Llwyd Jones o Glwyd, Teleri Haf Thomas o Frycheiniog, Manon Wyn Rowlands o Ynys Môn, Jac Davies, Betsan Jones a Sioned Mair Bowen o Sir Gaerfyrddin, Mared Fflur Jones, Gwenllian Wilson, Eiry Williams ac Elen Rebeca o Geredigion, Rhodri Jones o Eryri a Caryl Davies a Megan Phillips o Sir Benfro.

Diolch i Ymddiriedolaeth Elusen NFU mutual am gefnogi’r trip Patagonia. Bydd aelodau’n teithio o Buenos Aires i Mercado de Cañuelas, un o’r marchnadoedd mwyaf arloesol y byd. Ar ôl hyn, byddant yn cael cyfle i ymchwilio rhanbarthau Cymreig Patagonia, wrth ymweld ag ysgolion, amgueddfeydd a ffermydd lleol. Bydd cyfle hefyd i fwynhau golygfeydd Gwarchodfa Natur Nant Fall, Rafftio ar Afon Corcovado ac ymuno a thaith Gwylio Morfilod dewisol. Cyn dychwelyd adref i Gymru, bydd yr aelodau hefyd yn cael cyfle i ymweld â Buenos Aires yn enwendig La Boca, San Telmo a Recoleta.

Yn 2025, bydd aelod arall yn hedfan i Seland Newydd. Ar Ddiwrnod Dethol, cyhoeddwyd mai Rebecca John, o CFfI Sir Benfro, oedd yn llwyddiannus yn ennill yr ysgoloriaeth Gyrfaoedd Llaeth Seland Newydd. Gwnaeth ei brwdfrydedd dros bopeth amaeth a’i pharodrwydd i ddysgu argraff ar y beirniaid. Dyma beth oedd gyda Rebecca i ddweud ar ôl iddi dderbyn y newyddion, “Mae’n anrhydedd cael derbyn yr ysgoloriaeth laeth yn Seland Newydd! Rwy’n hynod gyffrous i gael profiad o weithio yn niwydiant llaeth Seland Newydd ac i ymweld â’r wlad. Diolch yn fawr iawn i CFfI Cymru a Gyrfaoedd Llaeth Seland Newydd am y cyfle unigryw hwn!”

Rydym yn edrych ymlaen at weld anturiaethau ein haelodau dros y flwyddyn nesaf. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth CFfI Cymru, dilynwch ni ar Instagram neu Facebook.