Newyddion CFfI Cymru

Rebecca John o CFfI Sir Benfro wedi ennill Ysgoloriaeth Llaeth yn Seland Newydd!

Mae CFfI Cymru yn falch o barhau ei perthynas gydag Ysgoloriaeth Llaeth Seland Newydd ar gyfer 2025. Mae’r cyfle hwn yn galluogi aelodau CFfI Cymru i deithio a gweithio yn Seland Newydd, trwy ei rhaglen ddysgu barhaus.

 Mae Kathryn Haddow, o Gyrfaoedd Llaeth Seland Newydd yn nodi “Mae NZDC yn falch o gynnig cyfle i ffermwyr llaeth ifanc Ewropeaidd rhwng 18 a 30 oed i fyw, dysgu ac ennill yn niwydiant llaeth Seland Newydd sy’n enwog yn fyd-eang.

 Mae’r gwyliau gwaith yma’n hyrwyddo cyfnewid sgiliau ac yn cynnig mewnwelediadau sy’n buddio cyfranogwyr a sectorau llaeth y ddwy wlad. Mae cyfranogwyr yn ennill profiad ymarferol wrth dderbyn hyfforddiant ym mhrosesau llaeth byd-enwog Seland Newydd, gofal bugeiliol llawn, a’r cyfle i ennill cyflogau cystadleuol. Bydd y profiad yn gwella eu sgiliau ymarferol, yn dyfnhau eu dealltwriaeth o’r diwydiant, ac yn eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd addawol yn y diwydiant llaeth byd-eang.”

Mae aelodau CFfI Cymru wedi gweld hyn drost eu hunain. Yn 2022, cafodd Eleri George o CFfI Sir Benfro gynnig lle ar yr Ysgoloriaeth:

“Yn gynnar ym mis Rhagfyr 2022 fe wnes i ddechrau fy siwrne i Christchurch. Roedd NZDC yn anhygoel, gan helpu gyda bob cam trwy ddewis ffermydd addas ar gyfer cyfweliadau Zoom, cwrdd â mi yn y maes awyr a helpu trefnu fisas, y siwrne i Seland Newydd a rhoi cyfle i mi ymuno â chwrs Gyrfaoedd Llaeth Seland Newydd.

 Roeddwn i’n ffodus i ymuno â’r tîm ffermio Van Black ac roeddwn yn byw mewn byngalo 3 ystafell wely a godro dros 600 o fuchod. Roeddwn i’n gweithio patrwm shifftiau ac ar fy nyddiau i ffwrdd roeddwn i’n gallu teithio a blasu ychydig o gefn gwlad anhygoel Seland Newydd.  Ymunais â’r CFfI lleol ble wnes i wneud ffrindiau newydd, dysgu mwy am sut oedd y mudiad yn rhedeg, ac am sut oeddent yn codi arian. Rwy’n ddyledus i CFfI Cymru am y cyfleoedd gwych o deithio rwyf wedi’i derbyn ac i’r Ysgoloriaeth am gynnig y cyfle i ennill cymaint o brofiadau ac ehangu fy ngyrfa ac rwyf bellach yn gweithio i fferm coleg yn Iwerddon. O ran unrhyw gyfleoedd teithio, peidiwch â

dweud na… Derbyniwch unrhyw siawns a gynigir i chi wrth i chi ddysgu, tyfu, gwneud ffrindiau gwych ac mi fyddwch yn edrych yn ôl ar y cyfan gyda’r atgofion mwyaf melys.”

Yn 2025, bydd aelod arall CFfI Cymru yn hedfan i Seland Newydd i gael yr un cyfle. Ar Ddiwrnod Dewis, cyhoeddwyd mae Rebecca John, o CFfI Sir Benfro, oedd yn llwyddiannus yn ennill yr ysgoloriaeth. Gwnaeth ei brwdfrydedd dros bopeth amaeth a’i pharodrwydd i ddysgu argraff ar y beirniaid. Dyma beth oedd gyda Rebecca i ddweud ar ôl iddi dderbyn y newyddion, “Mae’n anrhydedd cael derbyn yr ysgoloriaeth laeth yn Seland Newydd! Rwy’n hynod gyffrous i gael profiad o weithio yn niwydiant llaeth Seland Newydd ac i ymweld â’r wlad. Diolch yn fawr iawn i CFfI Cymru a Gyrfaoedd Llaeth Seland Newydd am y cyfle unigryw hwn!” 

Edrychwn ymlaen at ddilyn taith Rebecca a hoffwn longyfarch hi ar ennill yr Ysgoloriaeth. Hoffem ddiolch hefyd i Yrfaoedd Llaeth Seland Newydd am weithio gyda ni i allu cynnig y cyfle hwn i’n haelodau, rydym yn gobeithio parhau’r bartneriaeth yma am flynyddoedd i ddod.