Blog yr Aelodau
Cais Adborth CCB CFfI Cymru
Wnaethoch chi fwynhau ein penwythnos CCB yng Nghaernarfon? Ai dyma’r tro cyntaf i chi fynychu?
Cawsom sgwrs gyda Caryl Jones, Cadeirydd pwyllgor Marchnata a Digwyddiadau 2023-2024 i ddarganfod mwy am y cynllunio a’r trefniadaeth o amgylch penwythnos CCB CFfI Cymru.
“Yn dilyn penodi Caerfnarfon fel lleoliad y CCB y llynedd mae’r Pwyllgor Digwyddiadau a Marchnata wedi bod wrthi yn trefnu’r penwythnos i aelodau Cymru.
Ar yr 20fed o Fedi teithiodd dros 150 o aelodau o bob cwr o Gymru i Gaernarfon ar gyfer penwythnos Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CFfI Cymru. Dechreuodd y penwythnos yn nhafarn Market Hall yng Nghaernarfon gyda Boncyrs Bingo o dan arweiniad DJ Bystach. Roedd pawb wrth eu boddau gyda’r noson bingo, gyda’r caneuon adnabyddus yn cael pawb ar eu traed i ddawnsio a mwynhau! Roedd yna lu o wobrau i’w hennill yn ystod y noson a diolch i gwmni Ani-Bendod am noddi’r brif wobr sef top ‘Cowbois Cymru’.
Roedd yna sawl pen tost bore dydd Sadwrn ond ymlaen a’r cyfarfodydd. Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CFfI Cymru yn ystod y bore, gyda’r is-bwyllgorau yn ystod y prynhawn. Ar ran pwyllgor Digwyddiadau a Marchnata Cymru hoffwn ni longyfarch pawb ar eu penodiad newydd fel rhan o dîm swyddogion CFfI Cymru. Pob dymuniad da i chi am y flwyddyn sydd i ddod.
Cowbois oedd thema nos Sadwrn a hetiau cowbois CFfI Cymru yn ddefnyddiol i gwblhau’r wisg ar gyfer y noson. Diolch i’r holl dafarndai am eu croeso yn ystod y penwythnos, roedd pawb wedi mwynhau taith fach o gwmpas y dref a phawb yn gorffen y noson yn Copa.
Bore dydd Sul roedd cyfle i bawb i gwrdd tu allan i’r Galeri am 10 er mwyn mynd am taith cerdded a sgwrs cyn throi hi am adre. Cyfle i ddal lan gyda rhai o’r aelodau, trafod yr hyn sydd ar y gweill yng nghalendr y mudiad a chyfle i glirio’r pen cyn mynd yn ôl ar y bws!
Wnaethoch chi fwynhau ein penwythnos CCB yng Nghaernarfon? Beth hoffech chi weld yn CCB CFfI Cymru y flwyddyn nesa? Pa fath o ddigwyddiad hoffech chi yn ystod yr nos? Cwblhewch y ffurflen isod gyda’ch adborth a syniadau ar gyfer y flwyddyn nesa er mwyn i’r Pwyllgor Marchnata a Digwyddiadau drefnu y penwythnos gorau i chi!
Diolch i chi gyd am fynychu a gwneud hi’n benwythnos i’w chofio i GFfI Cyrmu. Mae’r Pwyllgor Digwyddiadau a Marchnata yn edrych ymlaen at ddarllen eich syniadau i helpu i gynllunio penwythnos CCB y flwyddyn nesaf!”