Clwb y Mis

Clwb y Mis – Medi 2024

Medi 2024

CFfI Martletwy

Enw y Clwb:

Clwb Ffermwyr Ifanc Martletwy

Nifer o Aelodau:

61

Lle Rydych chi’n Cyfarfod:

Neuadd Cresselly 

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Penderfynol, hwyl, cyfeillgar.

Hoff Weithgaredd Noson Clwb:

Mae ein haelodau yn mwynhau hoci dan do, chwaraeon awyr agored yn yr Haf a dod ynghyd â chlybiau eraill ar gyfer teithiau! Rydym hefyd wrth ein bodd yn cael siaradwr yn dod i’r neuadd.

Cyflawniadau Codi Arian:

Tynnu Tractor, ‘Sledge & Dyno Days’, Canu Carolau, Bingo, Raffl, BBQ, Golchi Ceir.

Gweithio o fewn y Gymuned:

Glanhau traethau, help gyda P2P, helpu gyda sioeau amaethyddol lleol, boreau brecwast yn y neuadd, stiwardio Ironman Cymru, cefnogi sioe sirol, darparu llawer o wellies i’r arddangosfa yn y Senedd, mae llawer o aelodau’n cymryd rhan mewn teithiau tractorau elusennol, rhoi cwpan ‘CFfI Martletwy’ i ysgol leol am y disgybl amaeth mwyaf addawol, darparu bagiau tywod i dai lleol yn ystod llifogydd ac fe wnaethom helpu’r Heddlu i glirio’r ffordd ar ôl i lwyth ddisgyn o lori.

Hoff gystadlaethau:

Dawns, Beirniadu Stoc, Adloniant, Sgetsys Digri, Ffensio, Rygbi, TOW ac Eisteddfod.

Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?

Mae nifer o’n haelodau yn mynychu ysgolion Cymraeg, mae rhai yn dod o gartrefi Cymraeg iaith gyntaf ac rydym wedi dechrau cystadlu yn yr Eisteddfod Sir unwaith eto’n ddiweddar. Rydyn ni’n defnyddio’r Gymraeg ar ein cyfryngau cymdeithasol pan allwn ni.

Unrhyw ffeithiau neu sloganau hwyliog eraill a.y.y.b

Rydym bron wedi dyblu ein haelodaeth yn ystod y 18 mis diwethaf. O’r diwedd rydym yn dechrau cystadlu eto ym mhob cystadleuaeth, Eisteddfod y llynedd am y tro cyntaf ers 10 mlynedd! Enillon ni bencampwriaeth rygbi 7 y llynedd am y tro cyntaf. Rydym yn croesawu aelodau o bob cefndir, nid dim ond y rhai o deuluoedd amaethyddol. Denodd ein diwrnodau tynnu tractor, Sledge & Dyno gystadleuwyr o bob rhan o Gymru, Lloegr ac Iwerddon a ddaeth GRASSMEN i ffilmio am y diwrnod! Cyffro mawr! Rydym yn dod â ‘thafarn y mis’ yn ôl yn Sir Benfro i’n haelodau hŷn, ac wedi buddsoddi mewn byrddau pŵl, tenis bwrdd a gemau dan do i’n haelodau iau eu mwynhau yn y neuadd. Rydym wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, CRY a DPJ gyda’n codi arian, yn ogystal a codi arian ar gyfer y neuadd a’n clwb CFfI.