Newyddion CFfI Cymru
CCB YNG NGHAERNARFON I LANSIO BLWYDDYN NEWYDD CFFI CYMRU
Teithiodd aelodau CFfI o bob rhan o Gymru i Gaernarfon i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Ffederasiwn a gynhaliwyd yn ‘Y Galeri’.
Yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Sadwrn 21 Medi, etholodd yr aelodau nifer o swyddogion am y flwyddyn i ddod. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Mrs Sarah Lewis, Llywydd CFfI Cymru. Gorffennodd Rhys Richards ei rôl fel Cadeirydd CFfI Cymru ar ôl blwyddyn lwyddiannus yn y swydd. Hoffai CFfI Cymru ddiolch i Rhys am ei holl waith caled a’i ymroddiad tuag at y sefydliad. Etholwyd Dewi Davies, o CFfI Llanddeiniol yng Ngheredigion yn Gadeirydd ac Angharad Thomas, CFfI Sir Gaerfyrddin, yn Is-gadeirydd am y flwyddyn i ddod.
Cyhoeddwyd enillwyr gwobrau amrywiol yn ystod y cyfarfod. Fe wnaeth Tlws NFU Cymru ar gyfer y cynnydd fwyaf mewn aelodaeth yn ystod y deuddeg mis diwethaf, wrth gymharu gyda ffigurau o 2022-2023 ei gwobrwyo i CFfI Ceredigion, gyda 11.54% o gynnydd yn eu haelodaeth. Aeth Tlws Beynon Thomas i CFfI Maesyfed am fod y Ffederasiwn wnaeth ennill y nifer uchaf o farciau yn y rhaglen gweithgareddau i aelodau iau yn ystod y flwyddyn CFfI 2023/24. Yn olaf, cyflwynwyd Tlws Western Mail, gwobr i’r ffederasiwn wnaeth ennill y nifer uchaf o farciau yn holl raglen CFfI yn 2023/24, i CFfI Ceredigion.
1. Aeth Tlws Beynon Thomas i CFfI Maesyfed, am fod y Ffederasiwn wnaeth ennill y nifer uchaf o farciau yn y rhaglen gweithgareddau i aelodau iau yn ystod y flwyddyn CFfI 2023/24.
2. CFfI Ceredigion, Enillwyr Tarian NFU Cymru.
3. Cyflwynwyd Tlws Western Mail i’r ffederasiwn wnaeth ennill y nifer uchaf o farciau yn holl raglen CFfI yn 2023/24, i CFfI Ceredigion.
Ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cynhaliwyd pedwar cyfarfod is-bwyllgor, Materion Gwledig, Cystadlaethau, Digwyddiadau a Marchnata a Rhyngwladol. Yn ystod y cyfarfodydd bu aelodau’r pwyllgor yn trafod prosiectau, cystadlaethau, digwyddiadau a theithiau sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn 2024/2025. Yna etholodd pob is-bwyllgor Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion newydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Y Cadeirydd newydd ar gyfer Materion Gwledig yw Dominic Hampson-Smith o CFfI Gwent gydag Ifan Davies o CFfI Meirionnydd yn ymgymryd â rôl Is-gadeirydd. Yn Is-bwyllgor y Cystadlaethau, etholwyd Deryn Evans o CFfI Brycheiniog yn Gadeirydd gydag Elin Lewis o CFfI Maldwyn yn ymgymryd â rôl Is-gadeirydd. Rhiannon Williams o CFfI Gwent yw’r Cadeirydd newydd ar gyfer Digwyddiadau a Marchnata a Rhodri Jones o CFfI Eryri sy’n ymgymryd â rôl Is-gadeirydd. Ac yn olaf, Cathrin Jones o CFfI Sir Gaerfyrddin yw Cadeirydd newydd yr Is-bwyllgor Rhyngwladol gyda Will Hughes o Ynys Môn yn ymgymryd â rôl Is-gadeirydd.
Hoffai CFfI Cymru ddiolch i swyddogion CFfI Cymru 2023-2024 am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Dewi Davies, Cadeirydd CFfI Cymru sydd newydd ei ethol; “Mae’n fraint cael bod yn gadeirydd CFfI Cymru ar gyfer y flwyddyn 2024-2025! Edrychaf ymlaen at gyfarfod a gweithio gydag aelodau, swyddogion a chefnogwyr y mudiad ledled Cymru a thu hwnt dros y 12 mis nesaf.”
Dywedodd Angharad Thomas, Is-gadeirydd CFfI Cymru sydd newydd ei ethol; “Rwy’n dal i gael fy synnu’n llwyr i fod yn Is-gadeirydd CFfI Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod ac ni allaf aros i weithio gyda Swyddogion newydd CFfI Cymru.”
Hoffai CFfI Cymru ddiolch i aelodau, gwesteion, swyddogion a staff am fynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Nghaernarfon ac i Arfor Llwyddo’n Lleol am noddi’r cyfarfodydd.