Enillydd 2023 – Catrin Medi Owen & Gwion Puw Jones

Dechreuodd “Tafolog Luxury Stay Wales” yng ngaeaf 2020. Mae
gan ddau frawd Dylan a Gwion ynghyd â’u partneriaid Mared a
Catrin gyfranddaliadau cyfartal yn y busnes. Gydag ansicrwydd
ffermio a heb wybod beth sydd gan y dyfodol fe benderfynon
nhw arallgyfeirio i’r diwydiant twristiaeth am incwm ychwanegol.
Wedi’u lleoli yng nghefn gwlad hardd Cymru, mae eu cartrefi
tanddaearol unigryw yn ecogyfeillgar ac yn cyd-fynd â bryniau
tonnog Eryri. Mae’n noddfa moethus ar ffurf cabanau gwyliau
arddull hobbit ynghyd â thybiau poeth, cawodydd cerdded-imewn, ac ardal awyr agored breifat syfrdanol. Roedd gan Catrin
a Gwion weledigaeth i ddarparu llety gwyliau ecogyfeillgar lle
byddai pobl yn gallu mynd i aros heb boeni am niweidio’r
amgylchedd. Maent wedi croesawu dros 200 o westeion rhwng y
ddau pod ers mis Mai 2022 a hefyd wedi ennill yr eiddo gosod
Gwion & Catrin
gwyliau gorau yn y DU ac Iwerddon ynghyd â Glampio Gorau yn y DU ac Iwerddon.