Enillydd 2023 – Megan Powell

Daw Megan Powell o gefndir ffermio ond nid oedd ei rhieni’n
mynd ati i ffermio pan oedd hi’n tyfu i fyny, felly yn ystod ei
chyfnod fel aelod CFfI, mae hi wedi manteisio ar bob cyfle i
hyrwyddo ei gwerthfawrogiad a’i dealltwriaeth o’r sector
amaethyddol a materion sy’n effeithio ar gymunedau gwledig.
Trwy fudiad CFfI, mae Meg wedi codi arian i elusennau gwahanol
gan gynnwys dringo tri chopa uchaf Powys mewn 12 awr ac
ymuno â’i Chadeirydd Sir y llynedd yn beicio o amgylch
Brycheiniog ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad DPJ.
Mae Meg yn credu bod y sector amaethyddol yn hanfodol i wead
bywyd gwledig a chymunedau ac yn ariannu datblygu gwledig.
Mae mentrau amaethyddiaeth a ffermio lleol yn lwyfan ac yn
hwb incwm i gymunedau gwledig ffynnu, gan gefnogi
amaethyddiaeth ym Mhrydain rydech chi’n darparu incwm i
gymunedau gwledig wella a chynnal lles y bobl sy’n byw
ynddynt.