Newyddion CFfI Cymru
Aelodau’n heidio i Rhaeadr Gwy ar gyfer Diwrnod Maes CFfI Cymru!
Ar ddydd Sadwrn y 27ain o Ebrill, heidiodd aelodau o bod ardal yng Nghymru i’r Mart yn Rhayader i Ddiwrnod Maes CFfI Cymru a gafodd ei westeio gan Ffederasiwn Maesyfed eleni. Fe fu’r aelodau yn cystadlu drwy’r dydd mewn amrywiaeth o gystadlaethau gyda chysylltiad cryf i amaeth. Cynhalwyd y rhan fwyaf o’r cystadlaethau yn y Mart gyda sgiliau peiriannau fferm, ffensio a threialon cwn defad ar gaeau Glan Elan.
Gwelsom dros 90 o aelodau yn cystadlu yn y gystadleuaeth stocmon dros gatecorïau hŷn ac iau. Yn ystod y gystadleuaeth cafodd dîm o bedwar aelod eu gofyn i gwblhau holiadur cy neu galw I ddyfarnu a rhoi rhesymau ar bedair cylch o stoc: Biff Cigyddion, Defaid Magwraidd Masnachol, Ŵyn Cigyddion a Moch Cigyddion.
Sir Gâr gymerodd y lle cyntaf gyda’u Tim yng nghystadleuaeth Stocmon Hŷn y Flwyddyn ac yn eu cynrychioli ‘roedd Siôn, Luned, Angharad ac Ifan. Enillodd Angharad o Geredigion Stocmon Hŷn y Flwyddyn. Fe aeth y lle cyntaf yng nghystadleuaeth Stocmon Iau y Flwyddyn i Gwent gyda Chloe, Caleb, Lara a Wil yn eu cynrychioli. Gwelsom Stocmon Iau y Flwyddyn yn cael ei wobrwyo i Lewis o Faesyfed.
Denwyd dorf enfawr i weld y gystadleuaeth arwerthu lle ‘roedd aelodau yn gwerthu eitemau amaeth yng nghylch yr ocsiwn. Cyn yr arwerthiant ‘roedd yn rhaid i’r aelodau roi gwerth ar yr eitemau ac eu disgrifio i’r Beirniaid. Rhoddwyd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth yma ar y diwrnod i Dafydd o Feirionnydd. Cafwyd hefyd gystadleuaeth ‘Fferm Factor’yn y Mart i’r aelodau Iau yn unig. Cynnwys y gystadleuaeth hon oedd dau aelod yn cael tasg ar y diwrnod i’w gyflawni. Y dasg eleni oedd i adnabod ac enwi gwahanol daclau fferm. Ein enillwyr oedd Tomos a Dafydd o Sir Gâr.
I fyny ar gaeau Glan Elan cynhalwyd gystadleuaeth ffensio Iau ac Hŷn. Gofynnwyd i dri aelod o’u Sir adeiladu ffens gwrth-stoc i fanyleb penodol. Gwelwyd gystadleuaeth gref dros y ddau adran gyda Maesyfed yn fuddugol yn y ddau. Cafodd Sion, Alwyn a Rowan y wobr gyntaf yn y Ffensio Hŷn a Theo, Rhys a Tom yn ennill y Ffensio Iau.
Cystadleuaeth arall a gafwyd yn Glan Elan oedd Sgiliau Peirianwaith Fferm. Bwriad y gystadleuaeth hon yw i amlygu pwysigrwydd diogelwch fferm ar draws gwahanol agweddau gwaith fferm o ddiwrnod i ddiwrnod. ‘Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys timau o bedwar aelod yn cwblhau tasgau fel symud tractor a threilar, edrych am ddiffygion ar dractorau, ymdriniaeth ATV a Chymorth Cyntaf. Ar ddiwedd y diwrnod, cafodd dîm Sir Gâr , Aled, Hywel, Trystan ac Alex, y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth agos. Cafodd Sian o Frycheiniog y wobr am y Person Cymorth Cyntaf gorau. Cafwyd 5 cystadleuydd yn cystadlu yn y Treialon Cwn Defaid a oedd yn gystadleuaeth agos gyda Elgan o Feirionnydd yn cael y wobr gyntaf yn y Seremoni Wobrwyo.
Ar ddiwedd diwrnod llawn o gystadlu, cafwyd y seremoni wobrwyo ym Mart Rhayader. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu drwy’r diwrnod. Ond y Sir Westeio Maesyfed aeth a hi ar ddiwedd y diwrnod. Pob lwc i bawb a fydd yn cynrychioli Cymru yn Niwrnod Cystadlaethau FfCCFfI yn Stafford ar y 6ed o Orffennaf. Diolch i’r holl feirniaid a stiwardiaid a oedd yn bresennol ar y diwrnod.
Hoffem hefyd roi diolch enfawr i Sefydliad DPJ am fynychu Diwrnod Maes CFfI Cymru yn Rhayader gyda lori Hywel Davies. Fe elwodd ein Cadeirydd Rhys Richards a nifer o aelodau, rhieni a chefnogwyr o gael prawf iechyd breifat a chyfrinachol heb orfod gadael y Diwrnod Maes!