News

Cynhadledd Ffermwyr Ifanc y Pum Gwlad 2023

Rhwng dydd Mercher y 18fed a dydd Sul yr 22ain o Hydref 2023, cynhaliwyd Cynhadledd y Pum Gwlad gyntaf erioed yng Nghoedrebridge ger Caeredin. Crëwyd y gynhadledd hon (a gynhaliwyd gan Gymdeithas Clybiau Ffermwyr Ifanc yr Alban) gyda’r bwriad o roi cyfle i aelodau ddatblygu fel unigolion wrth gryfhau cysylltiadau â sefydliadau ffermwyr ifanc eraill. Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda’n Aelod Hyn o’r Flwyddyn, Endaf Griffiths i glywed popeth am ei brofiad yn Gynhadledd y Pum Gwlad.


Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Twmpath Dawns a Cèilidh? Fawr ddim a dweud y gwir. Er bod ambell symudiad mewn dawns yn wahanol – ac er bod rhai’n gwisgo cilt mewn un – maen nhw fwy neu lai yn union ’run peth. A dyna’r argraff a gefais i a thri aelod arall o CFfI Cymru wrth deithio i’r Alban ar gyfer Cynhadledd Ffermwyr Ifanc y Pum Gwlad ganol mis Hydref – yr un gyntaf erioed, gyda llaw.

Er bod yna rai gwahaniaethau rhwng y Ffermwyr Ifanc yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon – o ran strwythur, oedran aelodaeth a chystadlaethau – yr un ydyn nhw yn y bôn. Ac rydyn ni i gyd yn ceisio’r un nod hefyd, sef rhoi llwyfan i ieuenctid cefn gwlad allu datblygu a chryfhau eu hunain yn broffesiynol ac yn bersonol.

O gofio hyn, does dim syndod i’r gynhadledd gyntaf fod yn llwyddiant. ‘Arweinyddiaeth Wledig’ oedd thema’r digwyddiad pum diwrnod, a chafwyd sawl sgwrs a sesiwn adeiladu tîm ar y thema honno dan arweiniad unigolion blaenllaw a oedd yn cynnwys Sarah Millar o Quality Meat Scotland, a Finlay Carson MSP – i enwi ond rhai.

Roedd ymweliadau busnes yn rhan bwysig o raglen y gynhadledd hefyd. Ymwelwyd â chaffi a siop fferm Craigie’s ger Caeredin ar y diwrnod llawn cyntaf, ac yna ar yr ail ddiwrnod teithiwyd i ardal Kinross i ymweld â thri busnes gwahanol: fferm âr Mawmill, sydd wedi arallgyfeirio ac agor parc i gŵn; The Christmas Tree Company, sy’n arbenigo mewn tyfu a gwerthu coed a thorchau Nadolig; a fferm odro Cuthill Towers. Er gwaethaf y tywydd garw – gyda rhybudd coch am law mewn ambell ran o’r wlad – llwyddwyd i gael amser gwerth chweil yng nghwmni busnesau sy’n arweinwyr yn eu maes.

Nawr, mae’n dweud ym Meibl y Ffermwyr Ifanc: “Pan mae dau neu dri Ffermwr Ifanc wedi dod at ei gilydd, mae ’na joio i fod.” A chafwyd digon o hynny yn ystod y pum diwrnod wrth i ni gael blas ar ychydig o ddiwylliant yr Alban. Ar un noson cafwyd Swper ‘Burns’, traddodiad sy’n coffáu Robert Burns – y bardd-amaethwr o’r 18fed ganrif a gyfansoddodd ‘Auld Lang Syne’ – ac sy’n cynnwys darlleniadau ac areithiau hwyliog a bwyta hagis. Roedd yr hagis yn ffein iawn, gyda llaw, ond peidiwch â gofyn beth oedd ynddo! Cafwyd hefyd gyfle i ddefnyddio ein sgiliau Dawnsio Gwerin mewn Cèilidh yng Nghaeredin, ac roedd y ffaith bod y coesau’n stiff y diwrnod wedyn yn brawf iddi fod yn noson dda iawn!

Mae Ffermwyr Ifanc o wledydd Prydain ac Iwerddon bob blwyddyn yn cael cyfle i gynrychioli eu gwledydd yn y Rali Ewropeaidd, a hynny ochr yn ochr â gwledydd eraill o Ewrop. Mae’n rhaid cyfaddef, roedd rhai elfennau o raglen Cynhadledd y Pum Gwlad fel petaen nhw wedi’u cymryd o’r digwyddiad hwnnw – er enghraifft, un noson, roedd gofyn i bob gwlad wisgo’u gwisg draddodiadol a chyflwyno arddangosfa pum munud yn hyrwyddo eu hunain – ond i mi, cryfder y gynhadledd oedd mai dim ond criw bach o tua 20 oedd yn bresennol, gan roi cyfle i ni i gyd gymysgu a dod i adnabod ein gilydd a’n mudiadau yn well. Ac wrth i’r digwyddiad barhau y flwyddyn nesaf, gyda Gogledd Iwerddon yn cymryd yr awenau, fy ngobaith yw y bydd yn mynd o nerth i nerth ac yn datblygu ei gymeriad ei hun. Yn fy marn i, mae lle i’r Rali Ewropeaidd a Chynhadledd y Pum Gwlad.

At ei gilydd, bu’n bum diwrnod hynod ysbrydoledig a llawn hwyl wrth i Rhys, Cathrin, Deryn a minnau chwifio’r faner dros Gymru a chreu cysylltiadau newydd â’n cymdogion. Un o’r pethau gorau am fudiad y Ffermwyr Ifanc yw’r cyfle i wneud atgofion a ffrindiau oes ar draws y byd, ac yn bendant fe wnaed hynny yn yr Alban eleni. Hir oes i Gynhadledd Ffermwyr Ifanc y Pum Gwlad ddweda’ i.

Unrhyw uchafbwynt arall? Oes – fe enillais i wobr raffl yn y Cèilidh!