Newyddion CFfI Cymru
DWY LYSGENNAD CYMRAEG YN ENNILL GWOBRAU CFFI CYMRU
Yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, cafodd dwy wobr eu lansio er mwyn dathlu aelod ac arweinydd CFfI Cymru sydd wedi mynd ati i ddatblygu sgiliau Cymraeg eu hunain neu aelodau’r mudiad. Erbyn hyn, mae dwy wedi eu cyhoeddi yn enillwyr cyntaf y gwobrau, diolch i nawdd Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd am y gefnogaeth ac i Chris Gethin Designs am greu’r gwobrau hyfryd.
Ar ddiwrnod Shwmae Su’mae 2023, cyhoeddwyd fod Gwobr Calondid, i arweinydd oedd wedi hyrwyddo’r Gymraeg o fewn clwb ffermwyr ifanc yn mynd i Olwen Jones, arweinydd CFfI Beulah ym Mrycheiniog. Sam Davies o CFfI Beulah wnaeth enwebu Olwen ar gyfer y wobr, gan esbonio ei bod wedi troi CFfI Beulah yn glwb dwyieithog ond hefyd wedi dod â’r Gymraeg fel elfen naturiol ar lefel sirol.
Meddai Olwen: “Mae ennill Gwobr Calondid wedi bod yn dipyn o sioc a bod yn onest. Doedd gennyf ddim syniad fy mod wedi cael fy enwebu. Dim ond ers rhyw bum mlynedd yr wyf wedi bod yn rhan o’r mudiad gyda’r mab hynaf yn daer i ymuno gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Beulah yr eiliad y troeodd yn 10 oed. Bellach mae tri allan o’r pedwar plentyn yn aelodau ac rwyf yn un o’r arweinyddion ers tair blynedd. Er nad yw’r Gymraeg yn amlwg yn Sir Frycheiniog, wedi gweithio yn yr ardal ers 23 mlynedd bellach, mae yna gefnogaeth enfawr i’r Gymraeg yn lleol. Felly mae cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth, yn eu cymunedau, yn holl bwysig i fi. Dim ond rhoi cyfle i’r aelodau ddefnyddio eu Cymraeg yn naturiol wyf i.”
Cynhaliwyd seremoni gyntaf Dysgwr y Flwyddyn ym mhafiliwn Sioe Môn adeg Eisteddfod CFfI Cymru ar 18fed o Dachwedd, lle gwobrwywyd Daisy Plews, CFfI Bodedern, Ynys Môn yn Ddysgwr y Flwyddyn CFfI Cymru 2023. Ellena Thomas-Jones, arweinydd CFfI Bodedern wnaeth enwebu Daisy gan iddi fod yn “lysgennad i ddysgwyr Cymraeg ac wedi manteisio o fod mewn cymuned Cymraeg i ddysgu fwy ac ymarfer ei Chymraeg. Mae wedi datblygu yn enfawr dros y flwyddyn a bob tro yn dechrau sgwrsio yn y Gymraeg.”
Braf oedd gweld Daisy yn cael eu gwobrwyo yn ei sir ei hun, yn amlwg dan deimlad roedd yn teimlo’n freintiedig ei bod wedi ennill y wobr, “mae’r ffermwyr ifanc wedi bod yn ddylanwad mawr, mae’n Gymraeg i wedi gwella lot ers i mi ymuno, buaswn i ddim yn y lle yma heb CFfI Cymru a CFfI Bodedern a’r holl bethau dwi di neud yna.”
Diolch i’n ddau feirniad aeth trwy geisiadau’r ddwy gystadleuaeth; Roland Davies a Sam Robinson, sydd wedi dysgu Cymraeg eu hunain ac yn cydnabod cysylltiad cymuned a’r Gymraeg. Mi roedd y ddau yn cytuno bod ymroddiad y ddwy i’r Gymraeg ac i CFfI yn un arbennig gyda gweithredoedd anhunanol yn perthyn iddynt. Penderfynwyd hefyd rhoi cydnabyddiaeth uchel i Clare James o Faesyfed yn y gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn am ei hymroddiad i ddysgu’r Gymraeg.
Meddai Nia Haf, Swyddog Datblygu’r Gymraeg; -”Mae’r ddwy gystadleuaeth eleni yn gam enfawr ymlaen i CFfI Cymru a’n hymroddiad i gefnogi’n aelodau i barhau i ddysgu’r Gymraeg ond hefyd i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn y mudiad; mewn cystadlaethau amrywiol neu mewn sgyrsiau naturiol mewn digwyddiadau. Roedd yn bwysig i ni gydnabod gwaith arweinyddion clwb wrth hyrwyddo’r Gymraeg hefyd gan fod dylanwad ar lefel clwb a sirol yn holl bwysig! Rydym yn falch o’n datblygiad diweddar hefyd ar Instagram y mudiad- Cwis Cymraeg, sydd yn cynnig termau ar themâu addas amrywiol yn wythnosol a braf gweld bod niferoedd da yn cymryd rhan ynddo.
Llongyfarchiadau eto i Daisy ac i Olwen ar eu llwyddiant, edrychwn ymlaen at weld y gystadleuaeth yn datblygu gyda chefnogaeth y ddwy fel llysgenhadon i weld sut mae datblygu’r berthynas gyda dysgwyr Cymraeg.”