Newyddion

DIWEDDARIAD CORONAFIRWS GAN CFfI CYMRU

Wrth i’r sefyllfa gyda Coronafirws (Covid-19) esblygu mae Ffederasiwn Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn cydnabod y bygythiad ac wrth i nifer yr achosion barhau i godi, rydym am hysbysu ein haelodau a’n gwirfoddolwyr o’r canlynol:

Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru wedi penderfynu gohirio’r Ŵyl Siarad Cyhoeddus ddydd Sul yr 22ain o Fawrth, 2020.

O ganlyniad i’r digwyddiad fod yn un Gymru gyfan rydym wedi ystyried ein Gŵyl Siarad Cyhoeddus a chynnal asesiad risg ac wedi dod i’r casgliad y dylid gohirio’r digwyddiad oherwydd y defnydd o gyfleusterau rhanedig a dod a thorfeydd mawr o aelodau a chefnogwyr ynghyd.

Ar ôl ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru yn ofalus, trafod gydag ymgynghorwyr arbenigol a thrafodaethau a swyddogion a staff, gwnaed y penderfyniad anodd i ohirio tan ddyddiad pellach. Diogelwch, lles ac iechyd ein haelodau, rhieni, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a staff yw ein prif flaenoriaeth mewn unrhyw ddigwyddiad ac rydym am sicrhau ein bod yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn ymateb yn briodol.

Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd drwy ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ar hyn o bryd rydym yn cynghori unrhyw un sydd â phryderon neu sy’n chwilio am ganllawiau pellach i ddilyn canllawiau gan asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.

Rydym yn argymell i glybiau a siroedd i gadw golwg ar ddiweddariadau ynglŷn â’r sefyllfa ond i ddefnyddio synnwyr cyffredin. Os oes gan unrhyw aelodau, rhieni neu wirfoddolwyr unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni yn swyddfa CFfI Cymru.

Caiff penderfyniad ynglŷn â Diwrnod Gwaith Maes CFfI Cymru ei wneud ar yr 26ain o Fawrth, 2020.