Newyddion

CYFNOD NEWYDD I’R PENTREF IEUENCTID

Unwaith yn rhagor, bydd CFfI Cymru yn cynnal y Pentref Ieuenctid yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, yn dilyn bwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig. Roedd y mudiad yn ystyried bod hyn yn gyfle i ailymweld â’r werthoedd craidd, ac addasu arlwy’r Pentref i weddu i’r gynulleidfa arfaethedig: yr aelodau eu hunain. Yn dilyn arolwg a gynhaliwyd yn gynharach yn ystod y flwyddyn, roedd hi’n amlwg bod mwyafrif yr aelodau yn dymuno gweld y Pentref yn dod yn debycach i’r digwyddiad llai yr arferai pan ddechreuwyd ei gynnal, a darparu ar gyfer aelodau’r CFfI yn bennaf.


Gan ystyried hyn, mae gweithgor wedi cael ei sefydlu unwaith yn rhagor ac mae wedi trefnu Pentref Ieuenctid sydd ychydig yn wahanol eleni. Bydd yn ddigwyddiad llawer llai ei faint, a chaiff y sawl sy’n iau na 18 oed aros yno os ydynt yn aelodau o un o fudiadau’r CFfI (pa un ai a ydynt o Gymru neu unrhyw un o’r 5 gwlad a thu hwnt), ac yn achos lleiniau a neilltuir gan grwpiau o bobl sydd dros 18 oed, mae’n rhaid i fwy na 50% o aelodau’r grwpiau hynny fod dros 18 oed. Canfuwyd, yn ystod blynyddoedd blaenorol, fod maint y digwyddiad wedi cychwyn denu cynulleidfa wahanol a llawer iau, ac oherwydd yr hinsawdd economaidd, penderfynwyd cwtogi’r gyllideb i ariannu’r adloniant, gan ganolbwyntio ar alluogi pawb i fwynhau bod gyda’i gilydd unwaith yn rhagor wedi dwy flynedd sydd wedi bod mor heriol i gymaint o bobl.
Bydd enwau mawr yn dychwelyd i’r llwyfan, ac yn eu plith, bydd Huw Stephens, cyflwynydd BBC Radio Cymru a Radio Wales, band Cymraeg Candelas, a band lleol o’r enw Northern Ruins. Ystyrid hefyd fod hwn yn gyfle i roi cyfle i aelodau’r mudiad serennu hefyd, a dyna pam mae’r arlwy yn gymysgedd o enwau mawrion, bandiau o Gymru a rhai lleol, ac aelodau blaenorol a phresennol. Bydd Osian Gierke o CFfI Clwyd yn agor yr adloniant am y tro cyntaf erioed ar y nos Sul. Dywed Osian:

“Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar am y Pentref Ieuenctid. Mae dychweliad Sioe Frenhinol Cymru yn destun cyffro enfawr eleni, a bydd hi’n wych cael bod yn rhan o hynny. Rwy’n gwybod y bydd rhai o aelodau lleol Clwyd yn mynd yno i fy nghefnogi i, felly bydd hi’n wych cael perfformio iddyn nhw ac i lawer o bobl newydd hefyd wrth gwrs. Bydd cael cyfle fel hwn, yn fy oedran i, yn wych, ac rwy’n gobeithio bod y cyfle hwn yn un o blith llawer… edrychaf ymlaen yn arw at eich gweld chi yno!”

Mae CFfI Cymru hefyd yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth pedwar noddwr y Pentref, sef Massey Ferguson, Prifysgol Harper Adams, Bwydydd Castell Howel, a Sioe Frenhinol Cymru. Heb eu cefnogaeth hwy, ni fyddai modd cynnal y digwyddiad hwn.


Ar hyn o bryd, mae’r niferoedd yn argoeli’n dda, ac mae’r holl leiniau â chyflenwad trydan ar gyfer carafanau wedi’u gwerthu erbyn hyn. Bydd aelodau mudiadau’r Ffermwyr Ifanc o bob cwr o’r DU ac Iwerddon yn tyrru i’r Pentref Ieuenctid, o bob un o’r pum gwlad, ac un aelod o Seland Newydd hyd yn oed. Mae cael croesawu ei aelodau gweithgar a brwdfrydig unwaith eto, wedi cyfnod maith o fod ar wahân, yn destun cyffro mawr i fudiad CFfI Cymru. Hyderir y bydd eleni yn sylfaen i ddatblygu’r Pentref Ieuenctid yn rhan anhepgor a gwerth chweil o galendr y CFfI ledled y wlad, fel digwyddiad y mae’r aelodau yn ei haeddu’n fawr.

[Bydd y Pentref Pobl Ifanc yn agor ar ddydd Sadwrn 16 Gorffennaf ac yn rhedeg tan ddydd Iau 21 Gorffennaf, gyda pherfformiadau o 17eg-20fed Gorffennaf bob nos am 8pm. Bydd unrhyw un dros 18 oed yn gallu mynychu’r arena adloniant, bydd tocynnau’n £15 i’r rhai nad ydynt yn aelodau a £10 i aelodau]