Newyddion

CYNLLUN LLEOLIADAU DŴR CYMRU 2022

Yma yn Dŵr Cymru, mae gennym Dîm Rheoli Dalgylchoedd sy’n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod dŵr o’r ansawdd gorau posibl cyn iddo gyrraedd ein gweithfeydd trin, felly mae angen llai o gemegau a llai o ynni yn ystod y driniaeth. Gwnawn hyn trwy samplu dŵr rheolaidd a chynnal ymchwiliadau ac ymchwil i ddeall achosion sylfaenol problemau. Yna byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i nodi atebion sy’n gweithio i bawb.  

Gyda chymaint o dir amaethyddol o amgylch ein cronfeydd dŵr, mae ffermwyr yn bartneriaid allweddol i ni weithio â hwy.  A dyna pam, am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r tîm wedi cydweithio â Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI Cymru) i rannu gwybodaeth gyda ffermwyr ifanc a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith rydym yn ei wneud.

Bydd y bartneriaeth hon yn parhau yn ystod 2022, gyda chyfle cyffrous arall i ddau aelod o CFfI Cymru gymryd rhan yn ein cynllun lleoliadau.

Y llynedd, fe wnaeth dwy aelod o CFfI Cymru, Megan Powell a Laura Evans, ymuno â’r Tîm Dalgylchoedd am wythnos. Fe wnaethant ddysgu am y gwaith rydyn ni’n ei wneud ac roedden nhw’n gallu cysylltu o bell ag aelodau’r tîm i weithio ar brosiectau. Roedd y rhain yn seiliedig ar bynciau oedd yn bwysig iddyn nhw ac sydd hefyd yn bwydo i mewn i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud o ddydd i ddydd.

Dywedodd Loree Jones, Cydlynydd Partneriaeth Canolbarth Cymru Dŵr Cymru: “Bu Megan yn gweithio ochr yn ochr ag Alwyn Roberts, ein Cydlynydd Dalgylchoedd yn y Gogledd, a gyda’i gilydd buont yn ystyried problem clafr yng Nghymru fel rhan o brosiect ar iechyd anifeiliaid..

“Yn benodol, buont yn canolbwyntio ar yr heriau sy’n gysylltiedig â thrin y clefyd heintus hwn, sut y gall gwaredu dip defaid wedi’i dreulio ar dir o fewn dalgylchoedd effeithio ar ansawdd dŵr yn ein cronfeydd dŵr, ac yn olaf, sut y gallai’r diwydiant defaid a rhanddeiliaid wneud ymdrech ar y cyd i ddod â’r clefyd dan reolaeth.

“Yn y cyfamser, ymunodd Laura â’r Dadansoddwr Risg Gofodol Jamie Phillips ac roedd eu ffocws ar fapio risg. Astudiaeth yw hon o’r ffordd y mae dŵr yn llifo ar draws ardal benodol o dir, a sut y gall ffermwyr weithio gyda’r dirwedd honno i leihau’r risg y bydd gwaddod a mewnbynnau yn cyrraedd cyrsiau dŵr.”

“Mae’r ddau brosiect yn parhau i esblygu trwy waith y Tîm Dalgylchoedd, ac mae eu gwaith wedi rhoi gwybodaeth amhrisiadwy i ni o’u safbwynt hwy. Mae clywed lleisiau ffermwyr ifanc yn sicrhau ein bod yn datblygu prosiectau sy’n ystyried nid yn unig ein heriau ein hunain ond yr heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu yn ein dalgylchoedd.. Bydd Meg a Laura yn hyrwyddo negeseuon TarddLe trwy eu rhwydweithiau ffermwyr ifanc yn ystod y misoedd nesaf”.

Bydd Dŵr Cymru yn parhau â’r dull partneriaeth hwn gyda ffermwyr ifanc yn ystod 2022, a bydd rhagor o wybodaeth am ein cynllun lleoliadau nesaf a sut i gyflwyno cais yn cael ei chyhoeddi’n fuan.