Newyddion CFfI Cymru

πŸ‘‘ Prynhawn Brenhinol Maesyfed πŸ‘‘

Ar ddydd Mercher, Mai 7, 2025, cafodd swyddogion CFfI Maesyfed yr anrhydedd i gynrychioli eu Ffederasiwn Sir ym Mharti’r Ardd ym Mhalas Buckingham, am brofiad i’w gofio πŸ«–πŸ°πŸŒ·πŸ₯‚πŸ‘’

Derbyniodd Delyth Powell, Trefnydd y Sir wahoddiad am ei gwasanaeth i’r ffederasiwn dros y 12 mlynedd diwethaf, cydnabyddiaeth haeddiannol, a hyfryd oedd gweld hi’n mwynhau’r diwrnod mewn gwisg fendigedig πŸ©΅πŸ‘—

Mynychodd Sian Davies, Cadeirydd y Sir ac Elizabeth Swancott, Is-gadeirydd y Sir y digwyddiad hefyd, fel swyddogion ar gyfer eu dathliadau 80 o flynyddoedd πŸ’š

A Howard Nixon, fel dirprwy Arglwydd Raglaw am y blynyddoedd o waith y mae wedi’i neilltuo i elusennau πŸ‘πŸ»