
Ysgoloriaeth New Zealand Dairy Careers
Chwilio am antur?
Gyda diddordeb yn y diwydiant llaeth?
Edrych am gyfle i ehangu dy ddealltwriaeth o’r diwydiant, tra’n teithio?
Dyma’r cyfle i ti!
Mae’r tîm yn New Zealand Dairy Careers yn chwilio am bobl ifanc rhwng 18 a 30 mlwydd oed, sy’n angerddol i weithio yn y diwydiant llaeth, i ymuno a nhw pan fydd y border yn ail-agor. Felly os wyt ti’n dod o gefndir amaethyddol, neu beidio; wedi camu ar fferm odro o’r blaen neu heb – os bod gyda thi diddordeb i weithio a dysgu mwy – dyma’r cyfle i ti.
Mae’r rhaglennu yn amrywio o 16 wythnos i flwyddyn mewn hyd. Darperir hyfforddiant llawn i aelodau. Yn ogystal, wrth i ti fyw a dysgu tra ar dy antur pen arall y byd, byddi di’n ennill cyflog cyfradd y diwydiant.
“Roeddwn eisiau profi ffermio ar raddfa hollol wahanol. Seland Newydd oedd y lle gorau i mi wneud hynny. Ceir rhaglen ei ddisgrifio’n union fel yr oedd.
Michael, Gogledd Iwerddon
Wyt ti wedi darllen mwy am y tîm yn Seland Newydd, ac wedi sylwi mai DYMA’R CYFLE I TI? Well rydym yn ffodus i fedru cynnig dwy ysgoloriaeth i aelodau CFfI Cymru. Felly beth wyt ti’n aros am?
Mae’r cyfnod ymgeisio AR AGOR ac yn cau ar y 1af o Fehefin.
Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi bod yn llwyddiannus yn ennill ysgoloriaeth, mae’r tîm yn Seland Newydd yn cynnig pris gostyngedig ar raglennu sy’n unigryw i aelodau CFfI Cymru!
16 WYTHNOS
Mae’r rhaglen fer hon yn wych i fyfyrwyr sydd angen cwblhau lleoliad 16 wythnos ac sydd eisiau “Byw, Dysgu ac Ennill”, a phrofi golygfeydd anhygoel Seland Newydd ar yr un pryd.
Pris: £1,000
6 MIS
Mae lleoliad 6 mis yn caniatáu i fyfyrwyr brofi hanner tymor yn Seland Newydd, a dysgu trwy amlygiad a phrofi bywyd ar rai o’r ffermydd llaeth gorau yn y byd. Mae’r rhaglen yn cwmpasu popeth o fridio, rheoli porfa, arferion godro gorau, iechyd anifeiliaid, datblygiad personol a mwy.
Pris: £1,400
1 BLWYDDYN
Mae’r rhaglen hyd at 12 mis yn caniatáu i fyfyrwyr brofi tymor llawn ar fferm laeth yn Seland Newydd, i sicrhau y gallant fynd â phob agwedd o’i profiad o ffermio yn Seland Newydd adref gennyt. Bydd myfyrwyr yn dychwelyd nid yn unig gyda dealltwriaeth llawn o’r diwydiant, ond cymhwyster yn y diwydiant llaeth. Bydd cwblhau’r rhaglen hon yn rhoi’r wybodaeth werthfawr iddynt, a fydd yn fuddiol ar gyfer dilyn gyrfa laeth gartref ac yn rhyngwladol.
Cost: £1,750
“Criw gwych! Fe ddaethon nhw o hyd i fferm wych i mi a’i gwneud hi’n brofiad gwych o’r eiliad y des i oddi ar yr awyren tan y diwrnod y gwnes i adael ” – Mark, Iwerddon