Gyda CFfI Cymru
With Wales YFC
Sesiynau CFfI
YFC Sessions
Mae CFfI Cymru’n gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn cychwyn amryw o sesiynau blas YN RHAD AC AM DDIM i aelodau’r mudiad.
Mae’r sesiynau yma wedi eu creu er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i aelodau. Oherwydd ni fedrwn gwrdd yn gymdeithasol ar nosweithiau clwb – pam ddim cymdeithasu’n rhithiol a dysgu sgil newydd ar yr un pryd trwy sesiwn CFfI (neu ddau)?
Wales YFC is excited to announce that we will be hosting a variety of taster sessions FREE OF CHARGE to all of our members.
The YFC sessions are designed to give members a little something extra for their membership this year. As we cannot meet physically for a club night – why not socialise with friends virtually and learn a new skill at the same time, by taking part in a YFC session (or two)?
Sut i gymryd rhan?
- Cymrwch gipolwg ar y sesiynau sydd ar gael isod
- Cofrestra ar y sesiwn / sesiynau trwy glicio ar y lluniau
- Byddwn yn danfon y linc a’r cyfrinair draw atat 48 awr cyn i’r sesiwn gychwyn
How to take part?
- Take a look at the sessions listed below
- Register for the session(s) by clicking on the images
- We will send the link and the passcode for you to access the session 48 hours before it takes place
Ebrill | April
Addurno Cacen | Cake Decorating
Wrth i bawb arbrofi dros y cyfnod clo, mae pobi wedi dod yn hobi poblogaidd iawn yn ddiweddar. Felly beth am adeiladu ar eich sgiliau pobi a rhyfeddi deulu a ffrindiau, trwy ymuno â’r sesiwn addurno cacennau hon dan arweiniad cadarn Llinos Foulkes?
Iaith y sesiwn: Dwyieithog
Nodwch ddyddiad newydd
Nos Iau, 29ain o Ebrill am 7:00yh
Gohebydd Lleol | Local Reporter
Beth sy’n gwneud stori dda? Pa straeon sydd o ddiddordeb i bobl? Sut allwch chi ddefnyddio’r cyfryngau a’ch cysylltiadau i roi eich clwb lleol ar y map? Dyma rai o’r cwestiynau bydd Lowri Jones yn ateb yn ystod y sesiwn anffurfiol ac ysgafn yma.
Iaith y sesiwn : Cymraeg (Mae sesiwn Saesneg wedi’i drefnu ar gyfer dyddiad hwyrach).
Nodwch ddyddiad newydd
Nos Fawrth, 27ain o Ebrill am 7:00yh
Mai | May
Gyrfaoedd Llaeth Seland Newydd | New Zealand Dairy Careers
Ydy COVID-19 wedi achosi ichi ail-werthuso’r flwyddyn nesaf? Ydy? Felly, pam ddim mynd amdani, a mentro i Seland Newydd i brofi antur, bod yn rhan o’u diwydiant llaeth ac ennill arian tra yno?
Mae’r tîm yn NZ Dairy Careers yn chwilio am bobl ifanc rhwng 18 a 30, sy’n angerddol am weithio yn y diwydiant llaeth, i ymuno â nhw unwaith y bydd y border yn ailagor. Felly beth am ymuno â’n sesiwn i weld ai dyma’r cyfle i ti!
Iaith y sesiwn: Saesneg
Gohebydd Lleol | Local Reporter
Beth sy’n gwneud stori dda? Pa straeon sydd o ddiddordeb i bobl? Sut allwch chi ddefnyddio’r cyfryngau a’ch cysylltiadau i roi eich clwb lleol ar y map? Dyma rai o’r cwestiynau bydd Daniel Johnson yn ateb yn ystod y sesiwn anffurfiol ac ysgafn yma.
Iaith y sesiwn : Saesneg
Arloesi mewn Amaethyddiaeth a Ffermio heb ddwylo | Innovation in Agriculture & Hands Free Farming
Yn y sgwrs hon, bydd Kit Franklin yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed ar ei brosiect ymchwil ei hun y Hands Free Farm, y cyntaf yn y byd i geisio ffermio’n gyfan gwbl gyda systemau awtomataidd. Yn ogystal â chrynodeb o ddatblygiadau robotiaid amaethyddol o bob cwr o’r byd.
Iaith y sesiwn: Saesneg
Gweithdy Drama | Drama Workshop
Wyt ti wedi methu fod ar y llwyfan yn perfformio gyda’th glwb yn ddiweddar?
Efallai dy fod yn methu ar hwyl y panto a’r “Panto-Dame”?
Wel beth am roi cynnig i’n gweithdy drama i’th gael yn ôl yn hwyl ac ysbryd fod ar y llwyfan yn perfformio?
Meeting ID: 955 4251 2131
Passcode: 597208
Iaith y sesiwn: Dwyieithog
Newid Hinsawdd | Climate Change
Nid oes dadl bellach – newid yn yr hinsawdd yw un o faterion mwyaf ein hamser. Sut ydyn ni’n gwybod? A beth fydd yr effeithiau ar hinsawdd y DU a’r canlyniadau i amaethyddiaeth y DU? Bydd y sesiwn hon yn archwilio’r cwestiynau hyn, yn cyflwyno’r wyddoniaeth y mae’r wybodaeth hon yn seiliedig arni, ac yn dangos cipolwg i chi ar sut y gall y dyfodol fod os byddwn yn parhau â “busnes fel arfer”, ac nid yw’n bert!
Iaith y sesiwn: Saesneg
Mehefin | June
Colur Theatrig | Theatrical Makeup
Ar ôl gweithdy drama’r mis diwethaf, rwyt ti’n teimlo’n gyffrous ar gyfer cystadlaethau actio CFfI sydd ar ddod. Ac yn edrych ymlaen at fod yn ôl ar y llwyfan yn gwneud yr hyn rwyt ti’n ei wneud orau.
Ond medru di perfformio ar dy orau os nad wyt yn edrych y rhan?
Wel gennym ni’r ateb! Ymuna â’n Sesiwn Colur Theatrig yn nwylo’r talentog Emma Locke. Wedi’r sesiwn byddi di’n barod i gamu ymlaen i’r llwyfan a disgleirio – felly cofia ymuno â ni!
Iaith y sesiwn: Saesneg
Bydd hi’n Beiriannydd | She will be an Engineer
Ceir sesiwn yma ei redeg gan fyfyriwr peirianneg fenywaidd ym Mhrifysgol Harper Adams, Anita Woolf. Bydd Anita yn trafod y pethau allweddol y mae wedi dysgu ar ei chwrs, yn ogystal â rhywfaint o ffeithiau ysgafn am raddau peirianneg a gyrfaoedd.
Iaith y sesiwn: Saesneg
Colur gyda’r Nos | Evening Makeup
Gyda chyfyngiadau’n dechrau lleddfu, a chyfle bellach i ni adael y tŷ yn amlach nawr yw’r amser i wisgo fyny ar gyfer unrhyw achlysur. Ond wedi blwyddyn o fod mewn ag allan o gyfyngiadau clo, ydych chi’n cofio sut i roi eich colur ymlaen?
Ymunwch gyda ni, wrth i Emma rhannu tipiau ymarferol gennym ar sut i wneud ein colur yn barod ar gyfer unrhyw achlysur.
Iaith y sesiwn: Saesneg
Bywyd fel Syrfëwr Siartredig Gwledig | Life as a Rural Chartered Surveyor
Tyfu dy ddyfodol… Gall gyrfa mewn Arolygu Siartredig Gwledig gynnig ystod enfawr o dasgau a chyffro bob dydd. Ymunwch â’r darlithydd Andy Black i glywed yr hyn y mae rhai gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, graddedigion a myfyrwyr wedi bod yn ei wneud fel Syrfëwr Siartredig Gwledig.
Iaith y sesiwn: Saesneg
Dweud eich dweud | Have your say
Beth hoffech chi weld?
Pam ddim lleisio eich barn trwy adael i ni wybod beth hoffech chi weld nesaf – a gwneuth tîm CFfI ei gorau i wneud eich dymuniad yn realiti (o fewn rheswm!).
What would you like to see?
Why not have your say, and let us know what you’d like to see – and let the YFC team make your wish a reality (within reason!).
Am gymryd yr awenau?
Cysylltwch gyda ni gyda’r manylion o’r sesiwn hoffech chi gynnal.
Want to take the lead?
Send us a message giving details of the type of session you would like to host.
Ddim yn aelod o CFfI? | Not a YFC Member?
Paid â phoeni – mae yna dal gyfle i ymuno a chlwb CFfI yn dy ardal leol. Clicia ar y map (dde) i weld pa glwb medru’r ymuno â.
Don’t worry – there’s still time to join a YFC club in your local area. Click on the map (right) to join a club near you.