Marchnad CFfI

Wyt ti’n aelod o CFfI? Ac yn rhedeg busnes dy hun?
Wedi cychwyn un yn ystod y cyfnod clo? Neu eisoes wedi cychwyn ers blynyddoedd?
Wyt ti’n chwilio am ffurf gwahannol o hybu a hyrwyddo dy fusnes? Ond ddim yn siwr lle medru di?
Os atebaist “ydw” i’r uchod – yna Marchnad CFfI yw’r lle i ti
Beth yw Marchnad CFfI?
Bwriad Marchnad CFfI ydyw rhoi platfform ychwanegol i chi (aelodau ac aelodau cyswllt) i hybu a hyrwyddo’r hyn sydd gennych i’w gynnig. Gobeithiwn arddangos y busnesau’n unigol ar ein cyfryngau cymdeithasol a’r wefan, gyda’r bwriad o gyfeirio aelodau o’r cyhoedd i’ch tudalennau busnes unigol.