Gweithgareddau i glybiau CFfI

I gefnogi clybiau CFfI yng Nghymru wrth iddynt gynllunio eu rhaglenni am y misoedd i ddod, rydym wedi cynnwys isod rhestr o weithgareddau a fyddai efallai o ddiddordeb i chi. Bydd mwy o awgrymiadau yn cael ei gynnwys wrth i’r wythnosau fynd yn ei blaen. Os hoffech chi rannu eich syniadau gyda chlybiau a siroedd o ran y mathau o weithgareddau y hoffech chi ei weld, wedyn peidiwch oedi wrth ddanfon manylion trwyddo atom yn CFfI Cymru trwy e-bostio information@yfc-wales.org.uk.


Gweithgareddau Ysgafn

Gellir cyfuno’r gweithgareddau isod neu eu defnyddio’n unigol, i ddarparu adloniant ar noson clwb rhithiol / mewn person.


Sesiynau CFfI

Wyt ti’n ceisio trefnu Noswaith Clwb? Ond wedi diflasu ar noson gwis neu “scavenger hunt”?

Pam ddim bwrw golwg ar y sesiynau rydym newydd lansio yma yn CFfI Cymru?

Os wyt ti’n aelod CFfI neu’n trefnydd gweithgareddau’r clwb, cymer olwg ar yr hyn sydd gennym i’w gynnig. O nosweithiau Bwtsiera i Osod Blodau, mae ‘na rywbeth i bawb.

Felly beth wyt ti’n aros am? Cofrestra dy hun, neu dy glwb ar un o sesiynau CFfI heddiw. A gadewch i CFfI Cymru drefnu eich noswaith clwb nesaf.


Noswaith Gemau

Chi wedi gweld y Sioe Deledu boblogaidd – wel dyma’ch cyfle chi i fod yn rhan o’r hwyl!

Pwy fydd y Taskmaster? Beth fydd yr heriau? A phwy fydd yn dod i’r brig? Dechreuwch yr hwyl trwy glicio ar y ddelwedd uchod. Nodyn: gofynni’r am rodd fach i dderbyn y cynnwys.

Am chwarae Cwis? Awyddus i ganfod pwy yw’r llofrudd?

Am ddianc? Neu’n mwynhau bwrlwm rasio ceffylau?

Mae Macmillan wedi creu pecyn “Games Night In” i annog nosweithiau hwyl yn rhithiol. I dderbyn popeth byddwch ei hangen i gynnal unrhyw un o’r gweithgareddau uchod, cliciwch ar y llun (dde) a chofrestrwch ar y wefan! Gofynnir am gyfraniad bach wrth gofrestri.


Sgowtiaid

Mae siarad ar-lein yn rhan anatod o’n bywydau ar hyn o bryd. Ond pan fyddwn yn “tiwnio ymlaen” a ydyn ni’n “tiwnio i mewn” i’r hyn sydd gan eraill i’w ddweud?

Mae’r Sgowtiaid wedi creu’r gweithgaredd yma mewn partneriaeth â’r Diwydiant Rheilffyrdd i annog aelodau i fynegi eu barn, gwrando ar eraill, a deall yr hyn y mae eraill yn ceisio’i ddweud.

Cliciwch ar y ddelwedd i gael cyfarwyddiadau ar sut i chwarae’r gêm. Gwelir hefyd rhai adnoddau ychwanegol ynglŷn â ble i fynd am gymorth a sut i helpu ffrind.


Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW)

Gêm arloesol i ddangos i’r rhai sy’n cymryd rhan beth sy’n fwytadwy wrth chwilio am fwyd gwyllt.

Cliciwch ar y llun er mwyn canfod cyfarwyddiadau ar sut i chwarae’r gêm yma. A cliciwch ar y bwtwm isod i ganfod y cardiau chwarae.

Gêm dyfalu, wedi’i anelu at ddatblygu gwybodaeth unigolion am nodweddion, ymddangosiad a chynefinoedd pryfed ac anifeiliaid.

Ceir cyfarwyddiadau ar sut i chwarae’r gêm oddi tan y llun, ac adnoddau ychwangeol isod.

Gêm “Gwir neu Gau” i ddangos bwysigrwydd a buddion gorsydd a gwlyptiroedd.

Cliciwch ar y llun i dderbyn cyfarwyddiadau, ac adnoddau ychwanegol isod.


Siaradwyr Gwadd

KIDSCAPE

Mae Kidscape yn elusen gwrthfwlio (anti bullying), sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda CFfI Cymru i ddarparu gweithdai digidol neu wyneb-yn-wyneb i aelodau a gwirfoddolwyr y mudiad, yn rhad ac am ddim.

Cliciwch ar y logo am wybodaeth pellach.


INNOVIS

Mae’r tîm yn Innovis yn barod i’ch croesawi chi i noswaith trafodaeth yng nghwmni ei siaradwyr gwadd; neu am Deithiau Fferm Rithiol.

I weld yr ystod o weithgareddau ac am fanylion cysylltu, cliciwch ar y llun ger llaw.


BRO 360

Ydych chi’n glwb sy’n chwilio am weithgaredd saff i’w gynnal yn y flwyddyn newydd? Mae gan Bro360 yr ateb i chi!

Mae Bro360 wedi creu Her-straeon: set o heriau creadigol hwyliog i’w cwblhau fel criw.

Bydd un o Ysgogwyr Bro360 yn ymweld â chi (o bellter – trwy Zoom neu Teams) ar eich noson clwb, ac yn eich arwain trwy’r heriau hwyliog gan gyflwyno senarios gwahanol. Eich tasg fydd cwblhau 3 her wahanol o fewn yr awr.

Trefnu Sesiwn…
Cysylltwch â Lowri: post@bro360.cymru.