Diweddariadau, Canllawiau ac Adnoddau
Canllawiau diweddaraf o ran y firws Corona â chlybiau CFfI yng Nghymru
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd Pedwar ar 28ain o Ragfyr 2020, a allai effiethio ar weithgareddau CFfI. Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i Gymru gyfan.

Mae’r cyfyngiadau newydd yng Nghymru yn cynnwys:
• Bydd pob busnes manwerthu nad yw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos, a phob canolfan hamdden a ffitrwydd, yn cau ddiwedd y diwrnod masnachu ar Noswyl Nadolig.
• Bydd pob safle lletygarwch yn cau o 6pm Ddydd Nadolig.
• Bydd cyfyngiadau llymach ar gymysgu rhwng aelwydydd, aros gartref, llety gwyliau a theithio yn dod i rym o 28 Rhagfyr, ar ôl cyfnod pum niwrnod y Nadolig.
• Anogodd y Prif Weinidog bawb sy’n gallu gweithio gartref i wneud hynny.
Mae hyn yn golygu y bydd bob busnes manwerthu nad yw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos a phob canolfan hamdden a ffitrwydd yn cau ar ddiwedd masnachu ar Noswyl Nadolig. Bydd pob safle lletygarwch yn cau o 6pm ddydd Nadolig.

Mae llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd yn cyhoeddi mwy o fanylion yn y dyddiau nesaf. Edrychwch ar dudalennau gwybodaeth Coronafirws llywodraeth Cymru