Mawrth 2023
Enw y Clwb:
CFfI Llangadog, Sir Gâr
Nifer o Aelodau
47
Lle Rydych chi’n Cyfarfod:
Clwb Rygbi Llangadog
Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:
Gweithgar, Cyfeillgar a un teulu
Hoff Weithgaredd Noson Clwb:
- Noson ‘Ar goll mewn bws’ – cau llenni ffenestri’r bws a chael ein gadael rhywle anghysbell
a gorfod darganfod y ffordd nol ar droed - Parti Nadolig – hwyl a sbri, digon o gemau dwl
Cyflawniadau Codi Arian:
- Taith dractorau a wnaeth godi £1813 I Junior Drovers Rugby Llanymddyfri er cof am Mr.
Arwel Davies (Ad-Clad) - Pwyllgor Apel Eisteddfod yr Urdd Sir Gar 2023 – £725
- Elusen Arch Noa – £130 ar ol i ferch fach cyn aelod gael triniaeth yno.
- £1265.82 tuag at Uned Chemotherapi Ysbyty Glangwili er cof am Mr. Chris Davies,
Cwmcowddi, tad un o’n haelodau.
Gweithio o fewn y Gymuned:
- Cynnal Sioe C.Ff.I Llangadog yn flynyddol.
- Cynorthwyo yn ystod Treialon Cwn Defaid Llangadog
- Mynd o gwmpas yr ardal i ganu carolau yn flynyddol.
- Cynnal cwrdd diolchgarwch blynyddol a rhoi bwyd i fanciau bwyd lleol.
- Codi arian a Hybu Eisteddfod yr Urdd yn dod i Llanymddyfri yn 2023.
Hoff gystadlaethau:
- Mae pawb yn mwynhau pob mathau o gystadlaethau yn y clwb. Rydym yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle I gystadlu ymhob cystadlaeaeth!
- Rydym yn cystadlu yn y Diwrnod Maes, Eisteddfod, Beirniadu Stoc, Cystadleuaeth
Adloniant, Siarad Cyhoeddus a’r Rali yn flynyddol
Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg:
Cymraeg yw iaith y clwb. Felly rydym yn trafod yn y Gymraeg yn ystod y cyfarfodydd, pan
yn chwarae gemau a chystadlu gyda gweddill y Sir. Er hynny, rydym yn glwb cynhwysedig,
felly os mae aelodau yn llai hyderus yn y Gymraeg, rydym yn sicrhau eu bod nhw’n deall ac
yn cyfrannu yn y Saesneg os maen nhw eisiau. O ganlyniad rydym yn gwella hyder aelodau
sydd yn ddysgwyr neu yn llai hyderus yn defnyddio’r Gymraeg.
Ffeithiau Hwyl:
- Mae’r clwb yn dathlu 80 mlynedd eleni
- Yn 2015 daethom yn 3ydd yn y Drama Saesneg NFYFC
Lluniau: